Cyhuddo bachgen 16 oed wedi trywanu honedig ym Mhowys
Mae bachgen 16 oed wedi ei gyhuddo ar ôl achos honedig o drywanu ym Mhowys dros y penwythnos.
Ar ôl cael gwybod am ddigwyddiad ger Lôn Parkers yn Y Drenewydd am 20.25 nos Wener, fe ddaeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd i ddyn 18 oed wedi’i drywanu.
Roedd y dyn wedi cael anaf i’w fraich a bu'n rhaid i’r heddlu roi cymorth cyntaf iddo.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty yn ddiweddarach.
Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod nhw wedi cyhuddo dyn 16 oed o glwyfo’n fwriadol, bod ag eitem lafnog (bladed article) yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a gwir niwed corfforol.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Y Trallwng ddydd Llun.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty ond nid yw’r anafiadau yn rhai sy’n peryglu ei fywyd.