Newyddion S4C

Ynys Môn: 'Treth ar ail dai yn bwrw teuluoedd sy'n siarad Cymraeg'

10/03/2025
Cyngor Môn / Aled Morris Jones

Mae codi treth cyngor ar ail dai ar Ynys Môn yn bwrw “teuluoedd sydd yn siarad Cymraeg," yn ôl un cynghorydd.

Wythnos diwethaf, fe wnaeth Cyngor Sir Ynys Môn gytuno i gynnydd o 8.5% ar dreth y cyngor ar gyfer 2025/2026.

Yn y cyfarfod, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor y Cynghorydd Robin Williams, sydd â chyfrifoldeb dros bortffolio cyllid a thai, y byddai lefel premiwm treth y cyngor yn aros ar 100% ar gyfer cartrefi gwag ac ail gartrefi,

Roedd y gyllideb wedi’i chynllunio’n “ofalus” i amddiffyn gwasanaethau, er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, meddai.

Ond fe wnaeth y ddadl droi’n ffrae rhwng aelodau Plaid Cymru, sydd yn rheoli’r cyngor, a’r wrthblaid, sef Annibynwyr Môn.

Mae’r rhai sydd yn amddiffyn y polisi o godi treth ychwanegol ar ail dai yn dweud ei fod yn ddull o “gadw rheolaeth” ar ddefnydd ail cartrefi a chartrefi gwyliau, ac yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem o ddatrys “yr argyfwng tai”.

Ond fe ddywedodd arweinydd yr annibynwyr, y Cynghorydd Aled Morris Jones, fod rhai yn “cael trafferth” talu’r dreth ar ôl etifeddu eiddo teuluol.

Fe ychwanegodd nad oedd rhai yn gallu rhentu na gwerthu tai oherwydd costau adnewyddu, eu hoedran neu salwch.

“Mae yna bobol leol sy’n berchen ar dai gwag sy’n gorfod cael eu gwerthu oherwydd na allan nhw ddod o hyd i ffordd i dalu’r premiwm," meddai.

“Mae’n ecstorsiwn (extortion) gyfreithlon ac yn annheg, does dim digon o eithriadau.

“Mae yna eiddo wedi bod mewn teuluoedd Cymraeg eu hiaith ar yr ynys ers degawdau ac mae yna rai sy’n methu fforddio talu.”

'Ynys yn llawn tai gwag'

Fe wnaeth cynghorwyr Plaid Cymru amddiffyn eu polisi, gan ddweud ei fod yn annog perchnogion sydd yn “ddigon ffodus” i gael ail dŷ i’w werthu neu ei osod er mwyn helpu i ddarparu cartref i eraill.

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard y byddai premiwm treth y cyngor yn aros ar 100% oherwydd bod yr ynys, fel y genedl, yn wynebu “argyfwng gyda digartrefedd a thlodi”.

“Os oes gennych chi’r gallu i fod yn berchen ar ddau gartref, mae’n iawn eich bod chi’n helpu’r rhai sydd ddim,” meddai.

“Os nad ydych chi eisiau talu’r premiwm, fe allwch ei osod [y tŷ] fel y gall teulu fyw yn yr eiddo hwnnw. Dw i eisiau gweld cartrefi ar yr ynys nid tai gwag."

Yn ystod y ddadl, fe wnaeth y cynghorydd Nicola Roberts gyhuddo Mr Morris Jones o “eisiau ynys yn llawn tai gwag”.

“Mae pobl yn cwyno am werthu tai gwag ond ydych chi eisiau tŷ gwag neu a hoffech chi weld teulu’n byw yno, yn defnyddio’r ysgolion, yn talu trethi, ac ati?” meddai.

“Oes mae yna rai yn wynebu anawsterau, felly gwerthwch nhw.”

Roedd yna hefyd grantiau cyngor i ddod â thai yn ôl i ddefnydd, a hyd at £25,000 ar gyfer adfer cartrefi, meddai.

Llun: Y Cynghorydd Aled Morris Jones.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.