
Grŵp rhedeg i ferched yn unig ym Môn yn 'creu gofod diogel'
Mae grŵp rhedeg cymdeithasol i ferched yn unig yn dweud eu bod nhw wedi cael profiadau o beidio teimlo'n "saff" hyd yn oed wrth ddod at ei gilydd fel grŵp.
Dechreuodd Gwen Owen o Fodedern, Sir Fôn, y grŵp rhedeg o’r enw Môn Girls Run dros flwyddyn yn ôl yn ardal Sir Fôn.
Bwriad y grŵp yw i gynnig gofod diogel i ferched ddod at ei gilydd i ‘gyfarfod â ffrindiau newydd, a pheidio mynd ar drywydd cyflymder yn unig’.
“Mi wnes i ddechrau rhedeg yn ôl yn haf 2023, a do’n i’m yn ‘nabod neb oedd yn rhedeg,” meddai Gwen Owen wrth Newyddion S4C.
Dywedodd ei bod wedi clywed am grwpiau tebyg mewn dinasoedd fel Manceinion a Lerpwl, lle’r oedd merched yn dod at ei gilydd i redeg “yn gymdeithasol” mewn awyrgylch “empowering”.
“Neshi feddwl bod ‘na ddim byd tebyg i ferched o gwmpas ffordd hyn, felly es i amdani a dechrau fy hun,” meddai.
“Dwi’n gwybod bod hynny’n gadael dynion allan, ond mi o’n i eisiau rhywle saff i ferched gael rhedeg efo’i gilydd a theimlo’n saff efo’i gilydd."

'Ddim yn saff'
Ar ddechrau’r wythnos, rhoddodd y grŵp Môn Girls Run neges ar eu cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod wedi cael dynion yn gweiddi arnyn nhw yn ystod un o’u digwyddiadau cymdeithasol.
“Ar y 5k cymdeithasol heno cawsom gar yn bîpio arnon ni tair gwaith a chael ein bygwth ar lafar allan o ffenest y car,” meddai'r neges.
“Roedd wyth ohonon ni’n rhedeg ar hyd llwybr wedi’i oleuo, prif ffordd, llwybr lle mae pobl yn ei ddefnyddio i redeg yn rheolaidd, a phalmant llydan.
“Dangosodd heno pa mor bwysig yw cymunedau fel ein un ni, a pha mor ddiolchgar yr ydyn ni i gael menywod cryf, grymusol a chefnogol o'n cwmpas.
“Ni ddylid normaleiddio’r math hwn o ymddygid. NID YW’N DDERBYNIOL!”
Dywedodd Gwen Owen nad oedden nhw’n gallu rhedeg gweddill y llwybr gan eu bod nhw wedi eu dychryn a’u siomi.
“Da ni’m yn saff ar ben ein hunain… a ‘da ni’m yn saff mewn grŵp,” meddai.
“Mae’n siŵr bod y dynion yn meddwl mai rhyw jôc oedd o, ond mae’n gallu rhoi pobl off rhag mynd allan a gwneud pethau fel ‘na”.
“Mi wnai ddeud bob tro mae’n digwydd” meddai “’da ni angen codi ymwybyddiaeth ohono fo”.

Grŵp i bawb
Er gwaethaf eu profiad negyddol yr wythnos hon, mae Gwen Owen yn benderfynol o barhau i drefnu digwyddiadau gyda’r grŵp rhedeg.
“Peidiwch â bod ofn ac ewch allan a gwnewch y pethau ‘da chi isho’u gwneud - a cefnogwch eich gilydd!” meddai.
Mae angen i ferched “fynd amdani a joio… a peidiwch a gadael i bobl eich rhoi chi i lawr - dydy o’m werth gwrando arnyn nhw!”
Pwysleisiodd Gwen Owen mai grŵp rhedeg i bawb ydi Môn Girls Run, boed yn rhedwyr profiadol neu’n newydd sbon i’r gamp.
“Mae’r grŵp i bawb,” meddai. “Mae gynnon ni bobl sydd erioed ‘di rhedeg o’r blaen, a mae ‘na bobl rili profiadol yn dod efo ni”.
“’Da ni jysd yn rhoi’r route allan ac mae pawb yn gyfrifol am eu hunain - mi fydda i neu un o’r ambassadors yn rhedeg yng nghefn y grŵp felly does ‘na’m pwysau o gwbl efo’r amser na’r pace.”
“Jysd ei ‘neud o a chael gadael y tŷ sy’n bwysig, a chael rhyw fath o catch-up ydi’r prif bwrpas!”

Teimlo’n ddiogel
Yn ôl Gwen Owen, mae’r merched sy’n cymryd rhan yn yn y nosweithiau cymdeithasol yn teiml’n llawer mwy hyderus wrth redeg mewn grŵp.
Erbyn hyn mae dros 200 o aelodau, ac mae eu cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol wedi denu cannoedd o filoedd o wylwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n dangos bod pobl yn gweld eisiau pethau fel hyn, yr wholesomeness sy’n perthyn iddo fo,” meddai.
“Mae’r grŵp yn tyfu fel dwn i’m be!” meddai, “’Da ni’n teimlo’n saff efo’n gilydd, ‘da ni jysd yn joio fo - mae o rili fel catch-up a ‘da ni’n mwynhau siarad efo’n gilydd."
Mae’r grŵp yn cynnal sawl digwyddiad yr wythnos, gan gynnwys nosweithiau rhedeg ym Mangor, Porthaethwy, Caergybi, y Fali, ac yn gwneud ambell i “park-runs a long runs ar y penwythnos”.
Maent hefyd yn teithio cyn belled â Chonwy a Wrecsam i gynna rhai digwyddiadau yno.
“’Da ni’n teimlo’n saff efo’r numbers, er mai nid fel yna y dylai fod."