Newyddion S4C

Argymell gwrthod adeiladu llethr sgio eira dan do ym Merthyr Tudful

06/03/2025
Llethr sgio Merthyr Tudful

Mae swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod yr hawl i gwmni adeiladu llethr sgïo eira dan do ym Merthyr Tudful.

Mae’r cynlluniau cwmni Marvel Ltd i adeiladu cyrchfan Rhydycar West yn cynnwys y llethr sgïo, parc dŵr trofannol, hyd at 418 o ystafelloedd gwesty a 830 o lefydd parcio.

Byddai yn cael ei hadeiladu ar dir i'r de orllewin o gylchfan yr A470/A4102.

Mae’r safle yn ardal treftadaeth naturiol sy’n cynnwys adeiladau rhestredig Gradd II, olion gweithfeydd mwyngloddio, tomenni sbwriel, ac olion camlesi a rheilffordd.

Mae hefyd yn cynnwys ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a choedwig hynafol.

Roedd 141 o lythyrau cyhoeddus yn cefnogi a 23 o wrthwynebiad a gyflwynwyd i'r cyngor yn ymwneud â'r cais.

Roedd y llythyrau o blaid yn nodi’r cyfleoedd am gyflogaeth a’r hwb economaidd i’r ardal.

Roedd llythyrau yn erbyn yn codi pryderon am ffyrdd prysur a hefyd yn holi a ddylai’r cwmni ystyried safleoedd eraill.

Dywedodd adroddiad swyddogion y cyngor: “Ar ôl pwyso a mesur, ni fyddai’r buddion economaidd a chymdeithasol posibl gan gynnwys creu cyflogaeth, buddsoddiad preifat sylweddol, a gwell cyfleusterau hamdden yn gorbwyso’r niwed a nodwyd i werth ecolegol a thirwedd bwysig y safle.”

Mae disgwyl i’r cais fynd o flaen pwyllgor cynllunio Cyngor Merthyr Tudful ddydd Mercher, 12 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.