
Galw ar fwy o bobl LHDTC+ i ystyried mabwysiadu neu faethu
Mae pobl LHDTC+ yng Nghymru yn cael eu hannog i ddod yn ofalwyr maeth neu fabwysiadu ac “i newid bywydau yn 2025”.
Fel rhan o Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+, sy’n cychwyn ddydd Llun, mae Maethu Cymru a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth neu’n fabwysiadwyr.
Yn ôl y cyrff, mae nifer y cartrefi maethu LHDTC+ wedi cynyddu mwy na thraean “gyda galw o’r newydd ar i fwy o bobl LHDTC+ i ystyried mabwysiadu neu faethu”.
Dywedodd Maethu Cymru: “Cynyddodd cartrefi maethu LHDTC+ yng Nghymru o 37% yn ôl y data diweddaraf.
"Yn y cyfamser, yn 2024 roedd un o bob chwe mabwysiad yng Nghymru gan gyplau o’r un rhyw.
“Nod Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ yw herio camsyniadau ynghylch maethu a mabwysiadu, wrth hyrwyddo sgwrs fwy agored.”
Yn ôl Maethu Cymru, yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae 7,208 o blant yn derbyn gofal, gan gynnwys tua 200 sydd angen eu mabwysiadu.
“Gall cyplau neu bobl sengl fabwysiadu neu faethu plant, ac mae llawer o bobl LHDTC+ yn gweld bod ganddynt fanteision unigryw i’w cynnig i ofal plant a phobl ifanc,” meddai’r corff.
'Cartref teuluol normal i blant'
Dechreuodd Dan a'i bartner Barry, o Sir Ddinbych, faethu naw mlynedd yn ôl.
“Fe wnaethon ni ddewis maethu oherwydd i ni feddwl y medrwn ni gefnogi llawer o blant,” meddai Dan.
“Wnaeth o ddim gweithio cweit felly. Buom yn gofalu am fachgen bach ar benwythnosau am rai misoedd, yna dechreuon ni ei faethu yn y tymor hir.
“Mae wedi bod gyda ni am wyth mlynedd. Mae wedi dod yn rhan o’n teulu, rydym yn ei drin fel ein teulu ni a fo ydy’r unig un i ni ofalu amdano ers hynny.”

Dywedodd Dan fod y ddau bob amser "wedi cael cefnogaeth wych" gan Maethu Cymru Sir Ddinbych a bod gweithwyr cymdeithasol wedi bod ar gael pan fo angen, bob amser.
“Roeddwn ni eisiau rhoi cartref teuluol normal i blant yn y system ofal, ond beth sy’n normal?” meddai.
“Nid yw’n air yr ydw i’n hoff o’i ddefnyddio oherwydd nid oes y fath beth. Roeddwn i eisiau rhoi bywyd y maen nhw’n ei haeddu i blant.
"Mae plant mewn gofal wedi bod trwy gymaint a dwi eisiau iddyn nhw fod yn hapus a chael y plentyndod gefais i a Baz a dyna ry’n ni wedi ceisio ei wneud.”
Mae mabwysiadwyr a gofalwyr maeth fel Dan a Barry wedi rhannu eu profiadau ar y podlediad New Family Social.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru, Suzanne Griffiths: “Bob dydd, mae gofalwyr maeth ledled Cymru yn gwneud newid cadarnhaol i fywydau pobl ifanc trwy ddarparu gofod diogel, a defnyddio eu sgiliau, eu profiad byw a’u gwybodaeth i addasu i’w hanghenion.
"Mae mabwysiadu hefyd yn cynnig sefydlogrwydd gydol oes pan nad yw dychwelyd at deulu geni yn bosibl.
“Gyda chymaint o blant angen gofal, rydyn ni wir yn annog pobl sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i gysylltu.”