Carcharu dyn o Rydaman am dreisio menyw yn ei chartref ei hun
Mae dyn o Rydaman wedi ei garcharu am bum mlynedd a phedwar mis ar ôl pledio'n euog i dreisio dynes yn ei chartref ei hun.
Cyfaddefodd Robert Smith, 26 oed, o Heol Penygarn, iddo gyflawni’r drosedd pan ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Llun 24 Chwefror.
Cafodd ddedfryd o garchar yn yr un llys ddydd Gwener.
Yn ystod ei wrandawiad dedfrydu, clywodd y llys sut yr aeth Smith i mewn i gartref y ddioddefwraig a’i threisio tra roedd hi’n cysgu yn ei gwely ar nos Fawrth 2 Gorffennaf, 2024.
Cyn y noson honno, nid oedd Smith a'r dioddefwr yn gyfarwydd â'i gilydd.
Cyd-ddigwyddiad pur oedd eu bod wedi cyfarfod yn gynharach y noson honno gan fod y ddau yn digwydd bod mewn cyfeiriad ymysg cyd-ffrindiau lle’r oedd alcohol wedi cael ei yfed.
'Gwirio ei lles'
Dywedodd y ddioddefwraig na fyddai Smith wedi cael unrhyw reswm i fynd i mewn i’w chyfeiriad yn ddiweddarach y noson honno i gynnal ‘gwiriad lles’ arni, fel yr oedd wedi ei honni.
Ar fore dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024, deffrodd y ddioddefwraig heb unrhyw atgof o'r noson gynt ond credai ei bod wedi dioddef trosedd rywiol ddifrifol ar ôl deffro'n noeth ac mewn poen.
Cysylltodd â'r heddlu i adrodd am yr hyn oedd wedi digwydd.
Mewn datganiad, dywedodd y ddioddefwriag ei bod hi’n teimlo’n “gorfforol frwnt ac afiach ar ôl yr ymosodiad”, gan esbonio ei fod bron yn amhosibl cyfleu mewn geiriau sut oedd y digwyddiad wedi effeithio arni.
Dywedodd ei bod hi’n teimlo ei bod hi wedi cael ei thrin fel anifail, gan ddisgrifio’r ymosodiad fel un “annynol”.
Clywodd y llys sut oedd bywyd y ddynes “wedi ei droi wyneb i waered” ar ôl cael ei threisio yn ei chartref ei hun, a’i bod wedi symud i ffwrdd o’r ardal wedi hynny gan ofni am ei diogelwch personol.
Mae hi hefyd wedi gorfod ymdrin ag effaith seicolegol y trais ers y digwyddiad yr haf diwethaf.
Esboniodd sut y mae hi nawr yn cael trafferth gyda’i chof tymor byr ac mae’n disgrifio teimlo’n fregus, ac ar goll.
'Erchyll, rheibus a hunanol'
Yn dilyn y ddedfryd yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y Ditectif Ringyll Carl Pocock: “Rwyf eisiau canmol y dioddefwr am fod yn ddigon dewr i adrodd am drosedd y gellir ond ei disgrifio fel un erchyll, rheibus, a hunanol.
"Dylai cartref rhywun bob amser gael ei ystyried yn hafan ddiogel, ond dinistriodd gweithredoedd Robert Smith fis Gorffennaf llynedd allu’r ddioddefwraig i fyw mewn hedd yn ei chartref. Ni ellir tanbrisio effaith ei droseddu.
“Mae’r achos hwn wedi’i brofi gan gryfder y dystiolaeth DNA, a adawodd Smith heb fawr o ddewis ond cyfaddef ei euogrwydd yn y llys. Er nad yw’r ddioddefwraig yn cofio’r hyn ddigwyddodd, mae’r dystiolaeth DNA wedi siarad ar ei rhan.
“Er na all yr un ddedfryd fyth ddadwneud gweithred ffiaidd Robert Smith, rwy’n gobeithio bod canlyniad heddiw’n rhoi rhywfaint o gysur i’r ddioddefwraig wrth iddi ddechrau ailadeiladu ei bywyd."