Cymru i wahardd rasio milgwn cyn gynted â bo modd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd rasio milgwn.
Pan ddaw hynny i rym, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwaharddiad o'r fath.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog, wrth aelodau Senedd Cymru y bydd y gwaharddiad yn dod i rym cyn gynted â phosib.
"Bydd gwaith i’w wneud i sicrhau bod cŵn, eu perchnogion, a’r rhai sy’n ymwneud â’r diwydiant o amgylch y trac rasio, yn gallu camu'n ôl o’r gweithgaredd hwn tra’n dal i warchod lles cŵn sydd o fewn y diwydiant ar hyn o bryd, y gymuned leol a’r economi leol," meddai.
Mae mwy na 35,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am wahardd rasio milgwn.
Fe wnaeth aelodau’r Senedd gefnogi'r gwaharddiad yn ystod dadl yr wythnos diwethaf.
Stadiwm Milgwn y Fali yn Ystrad Mynach yw'r trac olaf sydd ar ôl yng Nghymru.
‘Amser iawn’
Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Seland Newydd gynlluniau ar gyfer gwaharddiad oherwydd anafiadau a marwolaethau cŵn.
Dywedodd Mr Irranca-Davies: "Rydym hefyd yn nodi’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd eraill ar draws y byd sy’n cymryd camau i wahardd y weithgaredd.
"O ganlyniad, rwy’n credu mai nawr yw’r amser iawn i wahardd rasio milgwn yng Nghymru – rydym yn falch mai ni yw’r genedl gyntaf yn y DU i wneud hyn."
Yn ôl Y Dirprwy Brif Weinidog, y cam nesaf fydd sefydlu grŵp gweithredu i gynghori Llywodraeth Cymru ar sut y bydd gwaharddiad yn dod i rym.
Mae elusennau lles anifeiliaid wedi croesawu'r newyddion.
Dywedodd Dr Samantha Gaines, Pennaeth Anifeiliaid Cydymaith yr RSPCA, bod hwn yn "ddiwrnod hanesyddol i les anifeiliaid yng Nghymru".
"Bydd yn amddiffyn milgwn rhag y risgiau cynhenid sy’n dod yn sgil rasio cystadleuol," meddai.
"Mae rasio milgwn wedi bod yn dirywio ers tro fel gweithgaredd hamdden, ac rydyn ni’n gwybod bod nifer enfawr o bobl wedi rhannu ein pryderon am nifer y cŵn ar draws y DU sy’n marw neu’n cael eu hanafu'n ddifrifol.
"Mae'r ymgyrch hon wedi bod yn ymdrech tîm aruthrol - gan grwpiau lles anifeiliaid, ond hefyd y cyhoedd sy'n caru anifeiliaid ledled Cymru sydd wedi lleisio'u barn yn uchel ac yn glir.
"Gyda rasio milgwn bellach yn parhau mewn cyn lleied o wledydd, rydym yn gobeithio y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn anfon datganiad cryf i weddill y DU."