Newyddion S4C

'Say good night': Menyw yn rhannu ei phrofiad o gamdriniaeth ddomestig

Leanne Lewis

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid.

Mae menyw o’r Cymoedd wedi rhannu ei phrofiad o gamdriniaeth ddomestig yn y 1990au.

Fe wnaeth Leanne Lewis ddioddef chwe blynedd o drais gan ei phartner ar y pryd a geisiodd ei chrogi.

Mewn cyfweliad gyda chyfres Troseddau Cymru ar S4C, mae Ms Lewis yn dweud iddi bron golli ei bywyd, ond "doedd dim byd o’n i’n gallu neud".

Gyda’r profiad y tu ôl iddi, mae Ms Lewis yn fodlon siarad yn agored am ei phrofiadau er mwyn dangos bod ‘na "obaith ar ôl bod mewn perthynas erchyll".

'Meddwl taw bai fi oedd e'

Roedd Ms Lewis yn 17 oed pan wnaeth hi gyfarfod ei chariad cyntaf. 

Dywedodd ei fod wedi dechrau ei cham-drin ar ôl iddi dreulio mwy o amser gyda’i theulu yn dilyn marwolaeth "sydyn" ei thad-cu.

"Nath e trio pwsho fi mas o’r car dyna’r tro cynta natho bwrw fi, ac o’n i’n shocked," meddai.

Yn ôl Ms Lewis, fe ymddiheurodd ei phartner gan addo na fyddai’n ei tharo eto, ond fe waethygodd y trais ar ôl iddyn nhw symud i mewn gyda’i gilydd. 

Erbyn hyn dywedodd ei fod yn rheoli ei harian, beth oedd hi yn ei wisgo, ac yn ei chwestiynu am bopeth.

Fe gytunodd i’w briodi yn 1998, er nad oedd eisiau gwneud hynny.

"Nath o gofyn i fi o flaen pawb ac o’n i’n meddwl, oh my God, sai ishe dangos fe lan," meddai. 

"So nesh i ddweud ie, er pan ddwedes i o'n i’n meddwl, ‘Beth ti di neud?’"

Image
Leanne Lewis

Roedd Ms Lewis, a gymhwysodd fel nyrs yn ei hugeiniau cynnar, yn dioddef o gamdriniaeth corfforol ond hefyd yn cael ei rheoli’n seicolegol.

"O’n i wir yn meddwl os byddwn yn gadael byddai yn lladd fi, so meddwl fi adeg yna oedd bod e’n saffach aros yna," meddai.

Am flynyddoedd, doedd teulu a ffrindiau Ms Lewis ddim yn ymwybodol ei bod yn cael ei cham-drin.

"Oedd e’n glyfar. Fel arfer, pan fydde fe’n bwrw fi, bydde fe ar corff fi neu coesau fi," meddai Ms Lewis.

"Ond os oedd e ar gwyneb fi, oedd y nyrsys yn dweud, ‘Sut ddigwyddodd ‘na’?’ So, o’n i’n deud neshi cerdded mewn i drws... Oedd esgus ‘da fi trwy’r amser."

Ychwanegodd: "Ar yr adeg, oedd hyder fi mor isel o’n i wir yn meddwl taw bai fi oedd e… 

"Oedd e ‘di dweud hyn wrtha fi shwt gyment o weithia o’n i wir yn meddwl bo’ fi’n haeddu hyn."

'Say good night'

Ar ôl chwe blynedd o ddioddef yn dawel, roedd Ms Lewis wedi cyrraedd pen ei thennyn.

Mynnodd bod ei phartner yn gadael eu cartref, ond yn fuan wedyn fe dorrodd i mewn i'r tŷ.

"Odd e’n bwrw, pwnsho, cicio, stampo arna fi - a wedyn natho drio crafu llyged fi mas," meddai. 

"A wedyn nathe roi dwylo rownd gwddw fi ‘to a dwedodd e, ‘Say good night,’ ac o’n i’n meddwl dyma fe, dyma fe, dw i’n marw nawr."

Fe wnaeth Louize Turner ddarganfod ei chwaer yn ei thŷ yn dilyn y digwyddiad.

"Rwy’n dal i feddwl os na fyddwn i wedi mynd mewn pan neshi, byddai hi ddim gyda ni heddiw," meddai Ms Turner.

Cafodd cyn-bartner Ms Lewis ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth ynghyd â gorchymyn i beidio â chysylltu efo hi – ond fe barhaodd i wneud hynny.

"O'n i'n mynd i'r gwely efo cyllell dan fy ngwely achos o'n i'n becso bydde fe’n dod nôl," meddai Ms Lewis a benderfynodd fynd â'r achos i'r llys.

Fe blediodd ei cyn-bartner yn euog, ond ni gafodd ei garcharu. Yn hytrach, fe dderbyniodd orchymyn cymunedol 12 mis a dirwy.

"O'n i'n grac, nes i bron â colli mywyd i a wedyn 12 months, £100 fine," meddai.

Image
Sian Lloyd Troseddau Cymru

Yn ôl y cyn-farnwr Eleri Rees, doedd crogi rhywun ddim yn drosedd ar y pryd, gan adael "bwlch yn y gyfraith".

"Dros 40 mlynedd o eistedd yn y llys, fe weles i gannoedd neu falle mwy na hynny o achosion cam-drin domestig," meddai.

"Mae wedi cymryd degawdau i ni'n y llysoedd i sylweddoli pa mor ddifrifol yw cam-drin domestig a’r effaith nid yn unig yn gorfforol ond bob agwedd o fywyd y dioddefwr – a dw i'n meddwl o edrych ar be' mae Leanne yn dweud ddigwyddodd iddi, 'da ni'n meddwl bydde fe wedi cael dedfryd o garchar."

Ers 2021, mae unigolion yn gallu adrodd achosion o reolaeth drwy orfodaeth i'r heddlu.

Ond dywedodd Rhian Bowen-Davies, Ymgynghorydd Annibynnol Cam-drin Domestig, bod nifer yr erlyniadau'n parhau'n isel.

"Er bod nifer adroddiadau’r heddlu wedi cynyddu ers i hyn fod yn drosedd, mae’r erlyniadau dal yn isel iawn o ran y drosedd yma," meddai.

"Mae’n gallu bod yn heriol iawn i’r heddlu, yn enwedig i adnabod yr ymddygiadau yma, i ymchwilio a chasglu’r math yma o dystiolaeth."

Erbyn heddiw, mae Ms Lewis wedi priodi ac yn fam i fachgen yn ei arddegau.

Ond dywedodd nad yw'r siwrne wedi bod yn hawdd: "Odd rhaid i fi ddechre dysgu sut i fyw 'to, pethe syml fel talu bils.

"Y peth cynta neshi oedd torri gwallt fi ac o'n i'n meddwl, 'Reit ok.' O'n i'n gallu gwisgo be' o'n i ishe. Mae 'na obaith ar ôl bod mewn perthynas fel 'na.

"Dyna pam fi'n neud y rhaglen yma, jyst i ddweud: dyma fy stori a ma gobaith ar ôl bod mewn perthynas erchyll."

Bydd Troseddau Cymru gyda Siân Lloyd i'w gweld nos Fercher 12 Chwefror am 21.00 ar S4C ac ar S4C Clic ac iPlayer. 

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan S4C.​

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.