Meddyg yn colli apêl diarddel ar ôl 'ffugio cofnodion' wedi marwolaeth claf
Mae meddyg oedd yn gweithio mewn ysbyty yng Nghaerdydd a geisiodd “guddio” camgymeriad pan fethodd â rhoi diagnosis cywir i fenyw 75 oed oriau cyn iddi farw wedi colli apêl i wrthdroi’r penderfyniad i’w ddiarddel o’r proffesiwn.
Fe wnaeth y Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol – un o bwyllgorau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) – ddyfarnu fod Dr Allen Demanya wedi methu â gwneud diagnosis o sepsis.
Yn ôl y pwyllgor, fe wnaeth Dr Demanya ffugio cofnodion meddygol yn anonest i awgrymu ei fod wedi rhoi presgripsiwn o wrthfiotigau mewn modd amserol, pan nad oedd wedi gwneud hynny.
Cafodd y claf dan sylw ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym Mhont-y-clun ar 26 Chwefror 2019 i adran frys yr ysbyty, ble roedd Dr Demanya yn gweithio.
Bu farw’r fenyw y diwrnod canlynol.
Daeth y tribiwnlys i’r casgliad fod Dr Demanya hefyd wedi gwneud gosodiadau ffug dan lw i’r crwner yng nghwest i farwolaeth y claf.
Ar 6 Rhagfyr 2023, penderfynodd y tribiwnlys i ddiddymu enw’r meddyg o’r gofrestr feddygol ar sail camymddygiad, yn bennaf anonestrwydd.
Fe benderfynodd y doctor i herio penderfyniad y GMC yn yr Uchel Lys yn Llundain, gan hawlio fod casgliadau’r tribiwnlys yn anghywir a dylid cael eu diddymu.
Dywedodd hefyd nad oedd y penderfyniad i’w ddiarddel fel meddyg yn “addas nag yn angenrheidiol”, a hyd yn oed petai’r dyfarniadau eraill yn parhau i sefyll, mai gwaharddiad byddai’r gosb fwyaf addas.
Ond fe benderfynodd Mr Ustus Dexter Dias i wrthod yr apêl, ar sail bod angen i’r cyhoedd ddeall y rhwymedigaethau ar feddygon i ennill eu hymddiriedaeth.
Mewn dogfen 56 tudalen yn amlinellu’r penderfyniad, dywedodd: “Fe ffugiodd gofnodion meddygol hanfodol am glaf oedrannus difrifol wael i guddio ei gamgymeriad meddygol am ei chyflwr, a oedd yn peri bygythiad i’w bywyd. Ceisiodd guddio ei anonestrwydd ac yna rhoddodd dystiolaeth ffug ar lw yn y cwest i farwolaeth ei glaf.”
Fe ychwanegodd Mr Ustus Dexter Dias fod penderfyniad y tribiwnlys yn “gywir” a byddai unrhyw gam yn brin o ddiddymu enw Dr Demanya o’r gofrestr feddygol yn “niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd” yn rheoleiddiad y proffesiwn.
Llun: Ysbyty Brenhinol Morgannwg