Cadoediad Gaza: Hamas yn rhyddhau pedair menyw
Mae pedair menyw wedi cael eu rhyddhau gan Hamas fel rhan o gytundeb Cadoediad Gaza.
Hwn fydd yr ail gyfnewid ers y cadoediad ddod i rym ddydd Sul diwethaf pan gafodd tri gwystl a 90 o garcharorion eu rhyddhau.
Mae’r pedair sydd wedi cael eu rhyddhau am gael eu cyfnewid am 180 o garcharorion Palesteinaidd sy’n cael eu cadw gan Israel.
Mae’r pedair yn filwyr Israelaidd a oedd wedi cael eu cipio yn ystod ymosodiad 7 Hydref 2023 gan Hamas.
Mae’n debyg y bydd 70 o’r carcharorion Palesteinaidd yn cael eu halltudio ar ôl cael eu rhyddhau.
Dywedodd llefarydd ar ran byddin Israel: "“Ar hyn o bryd mae lluoedd arbennig yr IDF a lluoedd ISA yn dychwelyd gyda'r pedwar gwystl i diriogaeth Israel, lle y byddan nhw’n cael asesiad meddygol cychwynnol."