Newyddion S4C

Penodi Prif Swyddog Meddygol newydd i Gymru

Yr Athro Isabel Oliver

Mae’r Athro Isabel Oliver wedi cael ei phenodi’n Brif Swyddog Meddygol newydd i Gymru.

Fe fydd hi’n cymryd lle Syr Dr Frank Atherton sy’n rhoi’r gorau iddi ddiwedd y mis ar ôl wyth mlynedd a hanner yn y rôl.

Dywedodd bod y pandemig Covid-19 wedi bod yn gyfnod arwyddocaol yn y swydd, gan ddweud: “Dydw i ddim yn meddwl inni wneud unrhyw gamgymeriadau sylfaenol, mi wnaeth y cyfnodau clo achub bywydau.

“Mae angen i ni ddysgu ac edrych yn ôl i weld a oes unrhyw newidiadau y gallem eu gwneud i reoli pandemig yn y dyfodol."

Bydd yr Athro Oliver yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwyddoniaeth ac Ymchwil a Phrif Swyddog Gwyddonol i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).

Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, bydd yr Athro Oliver yn rhoi arweinyddiaeth glinigol ac yn gyfrifol am roi cyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd y cyhoedd.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd hi hefyd yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i "leihau anghydraddoldebau iechyd ac yn arwain y proffesiwn meddygol gyda'r nod o wella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion."

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Daw'r Athro Oliver â chyfoeth o brofiad i Gymru ar ôl blynyddoedd o weithio ar lefel uwch ym maes iechyd y cyhoedd yn y DU ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.

“Rwy'n falch iawn ei bod hi wedi ymuno â ni wrth i ni weithio i wella iechyd a llesiant, a hoffwn estyn croeso cynnes iddi i Gymru.”

Dywedodd Yr Athro Isabel Oliver ei phenodiad yn “anrhydedd” iddi, a’i bod yn “gyffrous iawn i weithio gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig a'r cymunedau ar draws Cymru i greu Cymru Iachach a diogelu ein GIG.”

“Bydd yn fraint gen i wasanaethu pobl Cymru i sicrhau cymunedau iach, gwydn a llewyrchus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.