Arestio dyn 24 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn Rhuthun
Mae dyn 24 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol yn Rhuthun.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben yn ystod y digwyddiad yn Sgwâr San Pedr yng nghanol y dref am 02.00 ar 19 Ionawr.
Ychwanegodd DC Sion Phillips o'r llu fod y dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty o ganlyniad i'r anafiadau.
"Mae ein hymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau ac rydym yn archwilio lluniau cylch cyfyng er mwyn cynorthwyo'r ymchwiliad hwnnw," meddai.
"Mae'r dyn 24 oed a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i'n hymholiadau parhau.
"Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd o gwmpas Sgwâr San Pedr yn oriau mân y bore 19 Ionawr a fyddai wedi gweld y digwyddiad."
Fe allai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth yn gallu cysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar-lein neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 25000048679.