Gwahardd y cyflwynydd pêl-droed Malcolm Allen rhag gyrru am chwe mis
20/01/2025
Mae’r cyflwynydd pêl-droed Malcolm Allen wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl cael ei ddal ar ei ffôn wrth yrru.
Derbyniodd y dyn 57 oed y gwaharddiad a dirwy £184 wrth ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun.
Roedd y cyn chwaraewr dros Gymru a Newcastle wedi gwneud cais am gael cadw ei drwydded ond collodd hi o ganlyniad i ormod o bwyntiau.