Prisiau tai sydd yn dod ar y farchnad wedi codi
Mae prisiau tai sydd yn dod ar y farchnad wedi codi 1.7% ar draws Prydain medd y wefan gwerthu tai Rightmove.
Roedd hyn yn golygu bod pris tŷ oedd yn cael ei rhoi ar y farchnad ym mis Ionawr ar gyfartaledd yn costio £366,189. Mae hyn dal bron £9,000 yn llai na’r hyn oedd y swm ym mis Mai 2024 pan oedd prisiau ar eu hanterth.
Yn ôl yr adroddiad mae mwy o dai wedi eu rhoi ar werth ar ddechrau’r flwyddyn o’i gymharu ar cyfnod yma'r llynedd.
Mae mwy hefyd wedi cysylltu gydag asiantaethau tai a mwy o dai wedi eu gwerthu.
Er hynny mae yna dal ansicrwydd gan gynnwys nifer y gostyngiadau cyfraddau llog a chyfraddau morgeisi.
Mae Rightmove yn darogan y bydd yna gynnydd o 4% yn y pris cyfartalog ar gyfer tŷ yn 2025.
Er hyn maent yn cynghori rhai sydd am werthu i wrando ar argymhellion yr asiantaethau tai o safbwynt gofyn am bris realistig am eu cartref.
Mae gwefan Zoopla yn darogan mai Gogledd Lloegr a’r Alban yw’r llefydd lle bydd prisiau tai yn codi fwyaf yn 2025.
Fe wnaeth Zoopla asesu sawl ffactor gan gynnwys pa mor fforddiadwy yw tai a pha mor gyflym maent yn gwerthu.
Yng Nghymru maent yn dweud mai ardaloedd yn y de sydd yn fwyaf tebygol o weld prisiau uwch- ardaloedd fel Caerdydd a Chasnewydd lle mae mwy o swyddi.
Dyw amodau’r farchnad ddim cystal yng ngogledd a chanolbarth Cymru meddai Zoopla er bod y prisiau wedi codi yn gyflym iawn yn ystod y pandemig.