Newyddion S4C

Emily Damari: Pwy yw'r gwystl Prydeinig sydd wedi ei rhyddhau gan Hamas?

19/01/2025
Emily Damari

Mae teulu’r gwystl Prydeinig olaf yn Gaza – un o dri sydd wedi cael eu rhyddhau gan Hamas ddydd Sul – wedi ei disgrifio yn flaenorol fel eu “golau a’u bywyd”.

Cafodd Emily Damari, 28 oed, dinesydd Prydeinig-Israelaidd, ei herwgipio yn ystod ymosodiad Hamas ar 7 Hydref 2023, ac mae wedi bod yn wystl ers 471 diwrnod.

Daeth cadarnhad gan gyfreithiwr Ms Damari, Adam Wagner, brynhawn dydd Sul ei bod bellach wedi ei rhyddhau.

Yn ôl ei mam, Mandy Damari, a aned yn Surrey, fe gafodd ei chhipio o’i chartref yn Kibbutz Kfar Aza ar fore’r ymosodiad a’i saethu yn ei llaw.

Rhoddwyd mwgwd ar ei phen a’i gorfodi i mewn i’w char ei hun gyda dau ffrind arall.

Cafodd ei chi Choocha, oedd gyda hi ar y pryd, ei ladd.

Cafodd Ms Damari ei geni a'i magu yn Kibbutz Kfar Aza fel yr ieuengaf o bedwar o blant.

'Gwreiddiau'

Dywedodd ei theulu ei bod hi bob amser wedi aros yn “agos at ei gwreiddiau Prydeinig” a’i bod “wrth ei bodd yn ymweld â Llundain” gyda’i mam lle'r oeddynt yn aml yn mynd i gyngherddau gan gynnwys rhai gan Ed Sheeran ac Adele.

Dywedodd Mandy Damari: “Pan oedd hi’n ifanc, ei hoff le oedd Sŵ Llundain … wrth iddi fynd yn hŷn, roedd hi wrth ei bodd gyda bwyd, bob amser yn ein llusgo ni i’w hoff fwytai.

“Byddem yn mynd i siopa yn Primark ac yn ymweld â marchnadoedd i gael bargen dda."

Yn gefnogwr brwd o Spurs, byddai Ms Damari hefyd yn mynychu gemau Tottenham gyda’i brawd “gan fwynhau peint neu ddau wrth weiddi'n groch”.

Dywedodd ei mam: “Iddi hi, Lloegr oedd ei chartref ac roedd hi’n caru ei hail gartref ar draws y môr, ac yn edrych ymlaen bob amser at ddod yma.”

Ddydd Mercher, unodd cefnogwyr Arsenal a Tottenham i gefnogi Ms Damari yn y gêm ddarbi yng ngogledd Llundain, ac fe anfonodd ei mam ei gwerthfawrogiad mewn neges, gan ddweud: "Rwy'n gwybod nad ydych chi'n cytuno llawer, sy'n ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy arbennig eich bod wedi dod at eich gilydd i ddweud ‘dewch â hi adref’.”

Fe welodd Mrs Damari, oedd yn byw ddwy stryd i ffwrdd yn Kfar Aza, ei merch ddiwethaf y noson cyn ymosodiad terfysgol Hamas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.