Llwyddiant trawsblaniad afu cyntaf y DU ar gyfer canser y coluddyn
Mae menyw ifanc yn rhydd o ganser ar ôl cael trawsblaniad afu cyntaf y DU ar gyfer canser datblygedig y coluddyn.
Cafodd Bianca Perea, cyfreithwraig dan hyfforddiant 32 oed o Fanceinion, y llawdriniaeth yn y gobaith y gallai gynnig iachâd posibl i'w chlefyd oedd yn bygwth ei bywyd.
Mae'r trawsblaniad ynghyd â thriniaethau eraill gan gynnwys cemotherapi yn golygu nad oes ganddi bellach unrhyw arwyddion o ganser yn unrhyw le yn ei chorff.
Roedd Ms Perea wedi ymweld â'i meddyg teulu yn Wigan, ar ôl teimlo ychydig yn rhwym ac wedi chwyddo.
Cafodd ei chyfeirio at ei hysbyty lleol lle cafodd brofion gwaed a chafodd sampl ei gymeryd .
Yn dilyn hyn cafodd ei chyfeirio am golonosgopi a biopsi.
Cafodd Ms Perea wybod ym mis Tachwedd 2021 bod ganddi ganser y coluddyn cam pedwar - y math mwyaf datblygedig - a oedd wedi lledaenu i bob ran o’r afu.
“Doedd gen i ddim symptomau drwg iawn o gwbl,” meddai.
“Roeddwn i’n 29 ar y pryd a doeddwn i byth wedi chwyddo i’r graddau na allwn wisgo fy nillad na fy nhrwsusau."
Rhagolygon llwm
Roedd Ms Perea wedi derbyn y diagnosis, ond dywedodd ei bod yn gwrthod credu bod y rhagolygon mor llwm.
Yna fe dderbyniodd driniaeth oedd yn cynnwys cemnotherapi am ddwy flynedd a hanner.
Fe wnaeth Ms Perea ymateb yn dda i'r driniaeth ac er fod ganddi diwmorau yn yr afu, fe ddechreuodd meddygon edrych ar drawsblaniadau afu.
Cafodd Ms Perea eu hychwanegu at y rhestr drawsblaniadau ym mis Chwefror 2024 ac roedd yn ddigon ffodus i ddod o hyd i roddwr, ac fe arweiniodd hynny at lawdriniaeth yr haf diwethaf .
Dywedodd Ms Perea: “O fewn pedair wythnos i fynd o dan y gyllell, roeddwn yn gallu gyrru a mynd â chŵn y teulu am dro, roedd yn wirioneddol anhygoel.
“I fynd o gael gwybod mai dim ond amser byr fyddai gennyf i fyw i fod yn rhydd o ganser yw’r anrheg fwyaf.
“Rydw i wedi cael ail gyfle mewn bywyd ac rydw i'n mynd i'w fachu gyda'r ddwy law. Rwyf mor ddiolchgar i’r teulu a gytunodd i roi iau eu hanwyliaid."
Haelioni
Dywedodd oncolegydd Ms Perea, Dr Kalena Marti: “Mae gweld bod Bianca wedi cael canlyniad mor gadarnhaol yn wych.
“Mae canser y coluddyn uwch yn gymhleth ac mae llawer o wahanol fathau o’r clefyd, felly efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un person yn gweithio i berson arall. O ganlyniad, mae’n bwysig inni barhau i ddatblygu triniaethau newydd.
“Diolch i haelioni rhoddwyr organau a’u hanwyliaid, gallwn nawr gael mynediad at drawsblaniadau afu i rai cleifion, sy’n wych.”
“Mae’n bwysig bod pobl yn cofrestru eu penderfyniad i roi ar gofrestr rhoddwyr organau’r GIG a gwneud eu penderfyniad yn hysbys i’w hanwyliaid. Ymgynghorir â theuluoedd bob amser ynghylch unrhyw benderfyniadau ynghylch rhoi organau.”
Mae Ms Perea yn edrych ymlaen at fynd ar wyliau eleni ac yn gweithio ar wella ei ffitrwydd.
“Mae fy afu yn gwneud yn dda iawn,” meddai. “Rwy’n cael profion ar hynny, ac rwyf newydd gael fy ail sgan ac mae hynny i gyd yn glir, felly mae’n dda iawn.”