Newyddion S4C

Caniatâd i ddatblygu peiriant gwerthu caws ar Ynys Môn

Mon Las

Mae gwneuthurwr caws o Ynys Môn wedi cael sêl bendith cynghorwyr lleol i ddatblygu "peiriant gwerthu caws" yn yr ardal.

Roedd Caws Rhyd y Delyn wedi gofyn am ganiatâd i gael datblygu "peiriant gwerthu caws" ar eu fferm laeth rhwng Penmynydd a Rhoscefnhir ger Pentraeth.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn bellach wedi cymeradwyo cais y fferm i godi cwt ar gyfer peiriant gwerthu caws ynghyd â chreu maes parcio.

Bydd y peiriant yn cael ei leoli mewn cwt ger mynediad y fferm a'r gobaith yw y gallai fod yn weithredol erbyn yr haf.

Yn ôl y cwmni, mae’r datblygiad yn rhan o "gynllun arallgyfeirio amaethyddol" ar gyfer y fenter laeth wledig.

Mae gwartheg pedigri Holstein Friesian yn cael eu bridio ar y fferm ac yn pori'r tir yn ystod y gwanwyn a’r haf. 

Yna mae'r llaeth yn teithio 30 metr yn unig i laethdy'r fferm lle mae’r caws yn cael ei gynhyrchu ar y safle.

Image
Lleoliad cwt caws Caws Rhyd y Delyn
Bydd y peiriant yn cael ei leoli mewn cwt ger mynediad y fferm

'Hwyluso siopa'n lleol'

Dywedodd Menai Jones, rheolwr gyfarwyddwr Caws Rhyd y Delyn, ei bod yn falch o gael y caniatâd cynllunio.

"Mae pobl eisiau cefnogi busnesau lleol, ac yn awyddus i brynu cynnyrch wedi’i wneud yn lleol, mae gennym ni bobl yn dod i’r fferm yn aml," meddai.

"Felly rydym yn gobeithio y bydd y peiriant yn helpu i’w wneud yn haws i brynu’n lleol - ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod i’w gefnogi."

Ychwanegodd Ms Jones bod hyrwyddo cynnyrch o Ynys Môn yn ganolog i'r fenter.

"Rydyn ni’n rhan o grŵp o bobl sy’n frwd dros hyrwyddo cynnyrch wedi’i wneud o Ynys Môn," meddai. 

"Mae hyn yn rhan o’n hymdrechion i arallgyfeirio’r fferm laeth, ond hefyd i helpu i gadw'r broses o wneud caws i fynd ar yr ynys."

Mae Caws Rhyd y Delyn yn adnabyddus am gynhyrchu caws glas o'r enw Môn Las. 

Mae’r caws yn cael ei wneud gyda chynhwysion naturiol, gan gynnwys halen o Halen Môn.

Mae'r cwmni wedi cipio sawl gwobr, gan gynnwys y Pencampwr Goruchaf yn y Sioe Frenhinol ar gyfer Môn Las.

Mae holl gaws Caws Rhyd y Delyn hefyd yn cael ei wneud gyda cheuled llysieuol, gan ei wneud yn addas ar gyfer llysieuwyr.

Prif lun: Caws Rhyd y Delyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.