Dau berson ag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ger Wrecsam
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddau berson gael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i wrthdrawiad ffordd difrifol yn Owrtyn am 02:00 ar 29 Rhagfyr.
Roedd Audi S1 glas yn rhan o'r gwrthdrawiad, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans hefyd eu galw i safle'r gwrthdrawiad ar yr A539.
Dywedodd y Rhingyll Steve Richards o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rwy’n apelio am unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y rhan o’r A539 ar Ffordd Owrtyn ac a` welodd Audi Glas neu'r gwrthdrawiad ei hun i gysylltu â’r heddlu.
“Yn ogystal, rydym yn gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â’r heddlu.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 24001087110.
Llun: Google