Porthladd Caergybi ‘o bosib ar gau nes mis Mawrth’
Mae pennaeth gwasanaeth post gwladol Gweriniaeth Iwerddon wedi dweud ei fod yn credu y bydd porthladd Caergybi ar gau nes diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth.
Cyngor diweddaraf Stena Line, perchnogion Porthladd Caergybi, yw y bydd y porthladd ar gau nes “o leiaf” y 15fed o Ionawr.
Ond dywedodd Garrett Bridgeman, rheolwr gyfarwyddwr An Post, nad oedd yn credu y byddai yn ail agor am fisoedd oherwydd maint y difrod a phryderon am ddiogelwch.
“Dw i ddim yn meddwl bod Ionawr 15 yn edrych fel y dyddiad,” meddai wrth y Sunday Times.
“Os edrychwch chi ar lefel y gwaith sydd angen ei wneud ac efallai y bydd angen gwirio diogelwch ar ôl hynny.
“Alla i ddim ei weld yn agor tan fis Chwefror nac i mewn i fis Mawrth a dweud y gwir.
“Roedd y difrod o dan y dŵr, ac roedd yn arwyddocaol iawn. Gall gwaith o dan y dŵr fel y gallwch ddychmygu gymryd amser hir.
“Doedden nhw ddim hyd yn oed yn gallu ei wneud am y cwpl o ddiwrnodau cyntaf oherwydd y tywydd ac roedd rhai pryderon iechyd a diogelwch.
“O edrych ar y difrod, mae Ionawr 15 yn edrych yn uchelgeisiol.”
Dywedodd ei fod yn rhagweld y bydd prisiau yn cynyddu i brynwyr oherwydd bod rhaid i yrwyr loriau deithio ymhellach.
“Os yw’r [cau] hwn yn mynd y tu hwnt i fis Ionawr i fis Chwefror neu fis Mawrth, dwi’n rhagweld y bydd manwerthwyr yn edrych ar brisiau rhai o’u heitemau,” meddai.
Mae Ger Hyland, llywydd yr Irish Road Haulage Association, hefyd wedi rhybuddio bod cwmnïau eisoes yn cynyddu eu prisiau 30%.
“Rydyn ni'n teithio yn bellach nawr o borthladdoedd i ddiwedd y daith; mae'n cymryd llawer mwy o offer i wneud y gwaith yr oedden ni'n ei wneud ac oriau hirach,” meddai.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Stena Line am ymateb.
Llun gan Chris Willz.