Apêl am wybodaeth yn dilyn 'fandaliaeth a lladrad' camerâu cyflymder yn Sir Gâr
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad bod gwerth £180,000 o ddifrod wedi ei wneud i gamerâu cyflymder yn Sir Gâr.
Cafodd y camerâu cyflymder eu gosod ar yr A4069 rhwng Brynaman a Llangadog wedi i dri o bobl gael eu lladd a 37 gael eu hanafu rhwng 2012 a 2023.
Mae pum achlysur o ddifrodi wedi bod rhwng Chwefror a Rhagfyr 2024 sy’n cynnwys difrodi’r ffynhonnell ynni solar a dwyn batris.
Y gost am osod y camerâu oedd £250,000, ac mae’n debyg y bydd yn costio £180,000 i drwsio’r difrod.
Dywedodd Rheolwr Partneriaeth GanBwyll, y Prif Arolygydd Gareth Morgan “Ar adeg pan mae’r pwrs cyhoeddus dan straen mae’r gweithredoedd disynnwyr hyn yn cynyddu risg ac yn faich ar yr awdurdod lleol a osododd y camerâu.
“Tra bod cyfran fechan o gymdeithas efallai’n hoffi meddwl fod hyn yn dderbyniol, mae’n bwysig cofio i’r camerâu hyn gael eu gosod yn dilyn marwolaethau ar y ffordd hon… Mae’r fandaliaeth a’r lladrad hwn yn cynyddu’r risg o ddigwyddiad trasig arall ar y ffordd hon.”
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y difrod i gysylltu drwy ffonio 101 neu anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk.