Newyddion S4C

Wylfa: Cais gan gynghorwyr am eglurder ar ddyfodol y safle

03/12/2024
Wylfa

Mae un o gynghorwyr Cyngor Môn yn galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa.

Fe ddywedodd Llywodraeth Geidwadol y DU ym mis Mai mai safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw eu dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Ond ers i'r blaid Lafur ffurfio llywodraeth newydd mae ansicrwydd dros ddyfodol y safle a chreu swyddi newydd.

Yn ôl adroddiadau mae'r Llywodraeth yn adolygu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr.

Ym mis Medi roedd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband wedi dweud wrth swyddogion am adolygu cynlluniau niwclear y dyfodol, gan olygu fod cynlluniau ar gyfer Wylfa bellach yn ansicr.

Y disgwyl oedd y byddai atomfa newydd ar yr ynys yn creu tua 1,000 o swyddi parhaol.

'Gorau yn Ewrop'

Bydd Cyngor Môn yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod galwadau i gynnal cyfarfod brys gyda Mr Miliband i drafod y sefyllfa.

Mae llythyr wedi ei anfon yn barod gan un cyngor cymuned at Lywodraeth y DU er mwyn ceisio cael eglurder. 

Yn ôl y Cynghorydd Derek Owen, fydd yn cyflwyno'r cynnig, mae'r drafodaeth dros ail orsaf niwclear yn yr ardal wedi bod yn mynd yn ei flaen am gyfnod llawer hirach nag y dylai.

”Rydym yn galw ar Gyngor Sir Ynys Môn i geisio cyfarfod brys â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Ed Miliband, er mwyn ei alluogi i gadarnhau dyddiad dechrau ar gyfer prosiect Wylfa Newydd ar safle Wylfa yng Nghemaes," meddai'r cynghorydd.

"Safle Wylfa yw’r gorau yn Ewrop ar gyfer lletya gorsafoedd pŵer niwclear neu orsafoedd.

"Mae hyn yn dilyn y llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymuned Llanbadrig yn ceisio atebion.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth y DU am ymateb.

'Dibynnu ar atebion allanol'

Nid pawb sy'n cefnogi ynni niwclear, gan gynnwys un grŵp lleol.

Yn ôl Robat Idris o fudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB) nid ynni niwclear yw'r ateb. Mae PAWB wedi brwydro yn erbyn gorsaf o’r fath ers degawdau.

"Lle mae'r ateb? Pam 'da ni'n dibynnu ar yr atebion allanol 'ma?” meddai Robat Idris wrth BBC Radio Cymru.

"Da ni wedi colli'r cwch hefo ynni adnewyddadwy wrth sôn am Wylfa dro ar ôl tro.

"'Da ni isio atal ein pobl ifanc rhag gadael a drwy harnesu be sydd ganddon ni yma a rhoi perchnogaeth leol, gymaint â sy'n bosib... mae hynny'n rhan o'r ateb i'r broblem, yn dydy?

"Mae isio ynni cymunedol sydd er lles pobl yr ynys ac yn datblygu swyddi yn sgil hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.