Newyddion S4C

Dyn ar goll yn Afon Conwy: Apêl am wybodaeth

24/11/2024
apel

Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio am ddyn fore dydd Sul wedi iddo fynd ar goll yn afon Conwy ger Trefriw ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn, yn ei 70au, ei weld ddiwethaf tua 16:30. 

Roedd yn gwisgo siaced Berghaus goch ac roedd ganddo gi. 

Roedd wedi bod yn cerdded gyda’i wraig ger Heol Gŵyr, sydd wedi dioddef llifogydd sylweddol yn dilyn Storm Bert.

Mae ganddo wallt gwyn byr, yn chwe troedfedd o daldra, roedd yn gwisgo het ddu a choch, trowsus tywyll ac esgidiau cerdded brown. 

Roedd ganddo hefyd siwmper wlân wen ac roedd ganddo ffôn Samsung du.  

Collie du a gwyn yw'r ci medd yr heddlu. 

Image
Apel

Mae’r Heddlu, Gwylwyr y Glannau, Tîm Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru, y tîm chwilio tanddwr rhanbarthol a’r gwasanaeth tân ac achub wedi bod yn cynnal archwiliad manwl o’r ardal ers y digwyddiad.

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw dystion a allai fod wedi gweld y dyn neu sydd â gwybodaeth berthnasol i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Kneale o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae hwn yn gyfnod arbennig o anodd i deulu’r gŵr hwn.  

"Mae chwiliadau helaeth yn parhau bore ma fel rhan o ymateb aml-asiantaeth ac mae swyddogion yn cefnogi ei deulu.  

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynorthwyo i gynnal archwiliadau dŵr helaeth mewn tywydd anodd iawn ac amodau gwlyb."

Ychwanegodd: “Mae dŵr llifogydd yn peri risgiau sylweddol, yn aml yn cuddio peryglon ac yn ddyfnach nag y mae’n ymddangos. 

"Byddwn yn annog aelodau’r cyhoedd i osgoi cerdded neu yrru drwy ddŵr llifogydd bob amser—nid yw byth yn werth y risg.

"Os oes gennych chi wybodaeth, cysylltwch â ni ar 101 ar unwaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.