'Arbennig': Aled Hughes yn agosáu at ddiwedd ei Her Plant Mewn Angen
Mae cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes, wedi dweud bod agosáu at ddiwedd ei Her Cerdded Plant Mewn Angen yn deimlad “arbennig”.
Roedd y cyflwynydd wedi gosod her o gerdded 135 milltir mewn saith diwrnod ar hyd Llwybr y Pererinion.
Wedi iddo gychwyn yn Nhreffynnon ddydd Sadwrn, fe lwyddodd Aled i gyrraedd Morfa Nefyn nos Iau ar ddiwedd y chweched cymal.
Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore Gwener, cyn iddo gyrraedd y llinell derfyn yn Aberdaron, dywedodd ei fod eisoes wedi cerdded 135 o filltiroedd.
Er hynny, dywedodd fod yna ambell achlysur lle’r oedd wedi ystyried “rhoi’r ffidil yn y to”.
“Mi ydw i ar gyrion pentref Tudweiliog erbyn hyn, ar arfordir gogleddol Llŷn. Roedd yr her i fod yn 135 o filltiroedd. Erbyn hyn, dw i wedi cerdded 136.2 o filltiroedd. 'Da ni wedi gwyro ambell i ddiwrnod yn mynd i weld ysgol efallai, a heb ddiffodd y Strava. Nes i’m sylweddoli tan rŵan i ddeud y gwir.
“Geshi ail wynt anferth ddoe (dydd Iau) ar ôl dringo bwlch yr Eifl, a mi geshi weld Pen Llŷn, bro fy mebyd, yn ei holl ogoniant yn yr heulwen. Ac mi oedd hwnna’n syth wedi mynd i ngwythiennau fi ac i nghoesa fi ag oni’n meddwl, 'reit – ma rywun yn gallu gweld y llinell derfyn rŵan, mi alla i neud hyn'.
“Mi oedd o’n teimlo fel bod modd erbyn heddiw. Achos mae 'na adegau wedi bod, nos Fawrth, bore dydd Mercher, o’n i wedi rhoi’r ffidil yn y to.
Inline Tweet: https://twitter.com/BBCRadioCymru/status/1856079990690812119
“O’n i wedi hanner awgrymu wrth y criw, ‘dwi’m yn meddwl alla’i gario ymlaen’ oherwydd o’n i mewn gymaint o boen. Ond o fod wedi bod yn y lle tywyll fan ‘na a dod i fan hyn, mae o’n teimlo eitha’ arbennig erbyn hyn.”
Ychwanegodd bod y “caredigrwydd a’r haelioni” wedi bod yn gymorth mawr iddo fo ac arweinydd y daith, Merfyn ‘Smyrff’ Jones.
“Mae o wedi bod yn wythnos mor arbennig. 'Da ni wedi rhegi, 'da ni wedi chwysu, 'da ni wedi tuchan, 'da ni ddim wedi ffraeo o gwbl, ac wedyn ti’n cyrraedd rhyw le ac mi oedd 'na neges anferth mewn sialc ar y lôn yng nghanol nunlle yn Rhosgadfan diwrnod o’r blaen.
“Neithiwr, yn yr awr ola’ a’r coesau fel plwm, mi oedd 'na neges wedi ei hongian mewn coedwig ar gyrion Nefyn. O’r cam cyntaf yn Nhreffynnon, mi oedd 'na rywun yno i ddeud helo, i groesawu ac i ddymuno pob lwc, ac mae o wedi’n cynnal ni ar hyd y daith.
“Mae o wedi bod yn rwbath cwbl, cwbl arbennig a rwbath dw i ddim yn mynd i anghofio fyth.”
Hefyd wedi gosod her eithafol i’w hun ar gyfer Plant Mewn Angen roedd y cyflwynydd Paddy McGuinness.
Fe wnaeth y cyflwynydd BBC Radio 2 gwblhau her i seiclo 300 o filltiroedd, o’r Cae Ras yn Wrecsam i Glasgow, mewn pum diwrnod.
Fe lwyddodd i gwblhau’r her drwy reidio beic Raleigh Chopper, ei hoff feic o’i blentyndod. Erbyn amser cinio ddydd Gwener, roedd wedi llwyddo i godi dros £7.5 miliwn ar gyfer Plant Mewn Angen.
Yn siarad ar ôl cwblhau’r her, dywedodd: “Mae’n foment y byddaf yn mynd â fi i’r bedd, a fyddai byth yn ei anghofio.
“Mae’n swnio'n cheesy ond mae bob un person dydd wedi fy nghefnogi wedi helpu i mi gadw’r pedalau i droi.”
Prif Lun: Aled Hughes (BBC Cymru)