Eisteddfod yr Urdd 2025: Huw Chiswell a Bronwen Lewis yn cyfansoddi cân i groesawu cystadleuwyr
Mae'r cyfansoddwyr Huw Chiswell a Bronwen Lewis wedi cydweithio â phlant o Gastell-nedd Port Talbot i greu cân i groesawu pobol i Eisteddfod yr Urdd 2025.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i Barc Margam ger Port Talbot ym mis Mai – a hynny am y tro cyntaf ers 2003.
Ond y tro hwn, bydd cân y croeso yn cael ei chanu yn hytrach na'r cywydd croeso traddodiadol.
Fe ymunodd Huw Chiswell a Bronwen Lewis gyda dros 1,800 o blant yr ardal ym Mharc Margam i ffilmio fideo gerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân.
Yn arddangos rhai o safleoedd mwyaf nodedig yr ardal, mae'r fideo yn "crisialu bro mebyd y plant" ac yn "estyn croeso i’r holl gystadleuwyr fydd yn dod i’r safle".
Bydd y fideo yn cael ei dangos am y tro cyntaf mewn gig yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur nos Sadwrn yng nghwmni Huw Chiswell a BronwenLewis.
'Cyfle i estyn allan'
"Wrth i’r Eisteddfod symud o ardal i ardal mae’n gyfle inni estyn allan i blant sydd heb gymryd rhan yn yr ŵyl o’r blaen, a rhoi cyfle iddynt brofi gweithgareddau fel hyn," meddai Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau Urdd Gobaith Cymru.
"Rydan ni mor falch fod ieuenctid y fro yn gyffrous i groesawu pawb i orllewin Morgannwg yn 2025, ac yn ddiolchgar i’r Pwyllgor Gwaith am gynnig y profiadau hyn i'n pobl ifanc, a’r holl gefnogaeth ar hyd y daith."
Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd yn 2027.