Newyddion S4C

Rygbi: Cymru yn herio Ffiji wrth chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn 2024

10/11/2024
Dewi Lake (Huw Evans)

Fe fydd tîm rygbi dynion Cymru yn ceisio dod â rhediad o naw colled yn olynol i ben wrth groesawu Ffiji i Stadiwm Principality ddydd Sul.

7 Hydref 2023 oedd y tro diwethaf i dîm Warren Gatland ennill gêm rygbi rhyngwladol, a hynny yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Ers hynny, wedi i sawl wyneb cyfarwydd gamu o’r neilltu a’r genhedlaeth newydd gymryd yr awenau, mae’r tîm wedi colli bob gêm.

Gyda thair gêm i’w chwarae yn y brifddinas yng Nghyfres Hydref y Cenhedloedd, mae Gatland wedi dweud bod y tîm yn benderfynol o hawlio’u buddugoliaeth gyntaf o 2024 yn erbyn Ffiji ddydd Sul.

Pe byddai Cymru yn colli, fe fydden nhw’n dod yn gyfartal â’r rhediad gwaethaf erioed yn hanes y tîm cenedlaethol, sef 10 colled yn olynol – gyda gemau yn erbyn Awstralia a De Affrica i ddod.

“Rydym yn gwybod pa mor beryg y gallai Ffiji fod, felly mae’n rhaid i ni fod yn gorfforol ac yn ddi-drugaredd ddydd Sul,” meddai Gatland.

“Mae’n rhaid i ni fod â’r switsh ymlaen am yr 80 munud gyfan. Da ni’n ymwybodol o le’r ydan ni, a ‘da ni wedi siarad am ba mor bwysig yw'r ddwy gêm gyntaf yma yn yr Hydref.

“Mae’r ffordd mae’r chwaraewyr wedi ymarfer wedi bod yn arbennig.”

Tanllyd

Dewi Lake fydd yn arwain y tîm, tra bod y chwaraewr profiadol, Adam Beard, Will Rowlands, Gareth Anscombe a Tomos Williams yn dychwelyd ar ôl methu taith yr haf yn Awstralia. 

Yn ennill ei gap cyntaf fydd asgellwr y Scarlets, Blair Murray. Fe symudodd yr asgellwr o Seland Newydd i Lanelli dros yr haf, ac mae’n gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd bod ei fam yn hanu o Donyrefail.

Image
Cymru v Fiji
Fe enillodd Cymru o 32-26 y tro diwethaf i'r ddau dîm cwrdd, a hynny yng Nghwpan Rygbi'r Byd y llynedd (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

Bydd Jac Morgan hefyd yn debygol o ddychwelyd yn y crys coch ar ôl cael ei enwi ar y fainc fel un o chwe blaenwr, gydag Ellis Bevan a Sam Costelow yr unig ddau olwr wrth gefn.

Mae gan y Ffijiaid hefyd resymau i fod eisiau ennill brynhawn Sul.

Byddan nhw’n edrych i dalu’r pwyth yn ôl ar ôl eu colled 32-26 i’r Cymry mewn gêm danllyd yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Ac ar ôl colli’n drwm o 57-17 yn yr Alban y penwythnos diwethaf, fe fyddan nhw’n benderfynol o berfformio'n well yng Nghaerdydd.

I wneud pethau'n fwy heriol fyth i’r Cymry, fe fydd sawl un o’u sêr disgleiriaf yn dychwelyd i’r tîm y penwythnos yma ar ôl methu’r gêm yn yr Alban – gan gynnwys Semi Radradra, Josua Tuisova, Eroni Mawi a’r capten, Waisea Nayacalevu.

Fe fydd Cymru v Ffiji yn cael ei dangos yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 13.40.

Prif Lun: Dewi Lake (Asiantaeth Huw Evans)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.