Plentyn wedi'i anafu yn dilyn ymosodiad gan gi yn sir Conwy
08/11/2024
Mae plentyn wedi cael ei anafu ar ôl ymosodiad gan gi yn ardal Llandudno, Sir Conwy.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i gyfeiriad yng Nghyffordd Llandudno brynhawn dydd Iau.
Roeddent yn ymateb i adroddiad fod plentyn wedi ei anafu gan gi.
Fe gafodd y plentyn ei gludo i’r ysbyty.
Dywedodd y llu bod swyddogion arbenigol wedi cymryd y ci, a’i ddifa.
Dyw'r heddlu ddim wedi cadarnhau union frid y ci.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad hwn yn parhau.”