Gohirio gemau pêl-droed wrth i ddyfarnwyr wrthod cymryd rhan
Gohirio gemau pêl-droed wrth i ddyfarnwyr wrthod cymryd rhan
Mae gemau dwy gynghrair bêl-droed yng Nghaerdydd wedi eu gohirio y penwythnos hwn, wrth i ddyfarnwyr wrthod cymryd rhan.
Cyhoeddodd Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd nos Fawrth na fyddai eu haelodau yn dyfarnu gemau pêl-droed ar benwythnos 2/3 Tachwedd oherwydd pryder am ymddygiad afreolus.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, honnodd y gymdeithas fod dyfarnwr wedi dioddef ymosodiad yn ddiweddar.
"Ni all yr ymddygiad sy'n dirywio ar ac oddi ar y cae barhau," meddai'r datganiad.
"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y weithred ddigynsail hon yn anfon neges glir."
Ychwanegodd y gymdeithas eu bod yn gwneud safiad yn erbyn "pob math o gamdriniaeth" yn erbyn swyddogion.
"Mae ein meddyliau yn parhau gydag un o'n haelodau wedi digwyddiadau'r penwythnos diwethaf, " meddai'r gymdeithas.
Mae safiad y dyfarnwyr yn effeithio ar gynghrair Cardiff Combination, a Chynghrair y Sul - Lazarou Caerdydd.
Dyw Cynghrair Rhanbarth Caerdydd ddim wedi gohirio gemau, ond mae timau sy'n chwarae yn y gynghrair honno wedi cael gwybod nad oes yn rhaid iddyn nhw chwarae.