Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru'n croesawu araith y Canghellor ond y gwrthbleidiau'n amheus

30/10/2024
Eluned Morgan

Mae Cyllideb gyntaf Rachel Reeves wedi cael croeso gan Brif Weinidog Cymru.

 Dywedodd Eluned Morgan fod yr araith yn dangos fod "Llywodraeth y DU yn parchu datganoli, a bod y ddwy lywodraeth yn cydweithio er mwyn pobl Cymru."

Bydd Cymru'n derbyn £1.7 biliwn o arian ychwanegol dan fformiwla Barnett, yn sgil y mesurau gyhoeddwyd yn y Gyllideb.

Ychwanegodd Ms. Morgan ei bod hi a'r Ysgrifenydd Cyllid Mark Drakeford wedi pwyso achos Cymru mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

"Mae heddiw'n dangos canlyniadau dwy lywodraeth Lafur yn cydweithio," meddai.

Dywedodd  yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, y byddai'r llywodraeth yn trafod sut i wario'r £1.7 biliwn ychwanegol yn yr wythnosau i ddod.

"Mae'r cyllid ychwanegol i'w groesawu," meddai. "Mae Cyllideb y Canghellor wedi ei fwriadu i greu twf, ond mae'r cyd-destun ariannol ehangach yn parhau'n anodd."  

Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi croesawu addewid Rachel Reeves i roi £25 miliwn ychwangol i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru, a'r newidiadau i gynllun pensiwn y glowyr, fydd yn golygu fod mwy o arian yn mynd i'r gronfa.

Dywedodd llefarydd:"Gwnaeth glowyr Cymru waith hynod o beryglus er mwyn cyflenwi ynni er mwyn i bobl wresogi eu cartrefi. Torrodd y  Ceidwadwyr eu haddewid, gan fethu rhoi'r cyfiawnder roedd y glowyr yn ei haeddu."  

Ond roedd y gwrthbleidiau yng Nghymru yn feirniadol o araith y Canghellor, gyda phob un yn mynegi pryder am effaith cynnydd yswiriant cenedlaethol ar fusnesau bychain, ac effaith newidiadau i dreth etifeddiaeth ar ffermydd teuluol. 

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Ben Lake fod Rachel Reeves "wedi methu cyfle".

"Roedd Llafur wedi addo dwy lywodraeth yn cydweithio, ond mae'n ymddangos fod Llywodraeth Cymru wedi eu gwthio i'r ochr gan Lywodraeth y DU, gan nad oes llawer o newyddion da i Gymru," meddai.

Dywedodd Mr Lake fod Llywodraeth y DU yn dal i wrthod talu"biliynau o bunnau sy'n ddyledus i Gymru" o gynllun rheilffordd HS2", a bod cynghorau Cymru'n wynebu bwlch ariannol o £559 miliwn yn 2025/6. 

Dywedodd y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders AS y byddai nifer o'r mesurau, fel y cynnydd mewn taliadau Yswiriant Cenedlaethol i gyflogwyr yn achosi pryder i fusnesau.

Roedd hi hefyd yn anahpus nad oedd cyfeiriad yn yr araith i gynllun i godi atomfa newydd yn y Wylfa, nac ychwaith unrhyw addewid i uwchraddio'r rheilffordd ar hyd arfordir y gogledd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, David Chadwick, fod y gyllideb wedi methu cynnig gweledigaeth ar gyfer y dyfodol i Gymru.

"Mae'n cosbi busnesau bychain a bydd yn drychineb i ffermydd teuluol," meddai. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.