Caws Cymreig gwerthfawr gafodd ei ddwyn o Lundain o bosib ‘wedi ei werthu dramor’
Caws Cymreig gwerthfawr gafodd ei ddwyn o Lundain o bosib ‘wedi ei werthu dramor’
Mae'n debygol bod caws Cymreig gwerthfawr a gafodd ei ddwyn o Lundain wythnos diwethaf wedi ei werthu yn Rwsia neu’r Dwyrain Canol, yn ôl un cynhyrchwr.
Roedd caws Hafod o Langybi ger Llanbedr Pont Steffan ymhlith 22 dunnell o gaws gwerth £300,000 gafodd ei ddwyn o siop Neal’s Yard Dairy yn Southwark.
Cafodd mwy na 22 tunnell o dri cheddar crefftus eu cymryd, gan gynnwys Hafod Welsh, Westcombe, a Pitchfork, sydd i gyd wedi ennill gwobrau, ac sydd â gwerth ariannol uchel.
Fe gafodd perchnogion y siop eu twyllo i feddwl fod cyfanwerthwyr eisiau prynu'r 950 o ddarnau mawr o gaws cyn sylweddoli bod y cwmni'n un ffug.
Dywedodd Patrick Holden, perchennog caws Hafod ei fod yn credu fod y twyll yn un “soffistigedig”, a bod y caws bellach wedi ei werthu dramor.
"Mae’r lladron yma nhw wedi dwyn £300,000 ac os llwydda nhw i werthu’r caws, fe gawn nhw ragor eto,” dywedodd ar raglen Today ar BBC Radio 4 fore Llun.
“Mae rhai yn dweud y gallai'r caws fod wedi mynd i Rwsia neu’r Dwyrain Canol, neu rywle tebyg. Ond dy’n ni wir ddim yn gwybod.”
Mae Neal's Yard Dairy yn gwerthu Hafod Welsh am £12.90 am ddarn 300g, tra bod Westcombe yn costio £7.15 am 250g a Pitchfork yn £11 am 250g.
Dywedodd Mr Holden ei fod yntau a pherchnogion Neal’s Yard yn “gyffrous” ar y pryd bod archeb mor fawr wedi’i gwneud.
"Roedd hynny yn gwneud popeth yn fwy brawychus fyth i ddweud y gwir, bod hyn yn gallu digwydd i gynnyrch sydd yn adnabyddus am yr ymddiriedaeth a thryloywder yr holl ffordd o’r cynhyrchwyr i’r cwsmer olaf,"
Dywedodd Neal's Yard y byddan nhw yn dal i dalu cynhyrchwyr y caws felly ni fyddai'n rhaid i'r hufenfeydd unigol dalu'r costau.
Mae Heddlu'r Met wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i "ladrad swm mawr o gaws".