Newyddion S4C

Aelodau'r Senedd yn gwrthod cefnogi cymorth i farw

25/10/2024

Aelodau'r Senedd yn gwrthod cefnogi cymorth i farw

Cafodd Janet Owen o Gwm Penmachno wybod bod ganddi sclerosis ymledol neu MS ddeng mlynedd yn ôl.

Erbyn 2009, roedd y boen a'i chyflwr mor ddifrifol penderfynodd deithio i glinig Dignitas yn y Swistir i gael cymorth i farw.

"Roedd Mam yn brifo o hyd, pob diwrnod.

"Roedd hi'n teimlo'n sâl.

"Dydy hwnna ddim yn byw."

Wythnos dwetha cafodd mesur newydd ei gyflwyno yn San Steffan fyddai'n rhoi hawl i bobl a salwch angheuol cael cymorth i farw.

Heddiw daeth ymgyrchwyr o ddwy ochr y ddadl y tu allan i'r Senedd wrth i'r mater gael ei drafod yn y siambr y tu fewn.

Soniodd un aelod am ei brofiad o golli ei dad eleni.

"Cafodd Dad ei anghofio'n llwyr yn ystod ei flynyddoedd olaf.

"O'n nhw'n flynyddoedd creulon.

"O'n nhw'n greulon i ni fel teulu, a sdim geirie i ddisgrifio pa mor greulon oedd e iddo fe.

"Pwy ydyn ni, pwy ydw i i orfodi unrhyw berson i fynd trwy hynny os nad y'n nhw'n dymuno gwneud?"

"I believe we need to show more compassion to those who are suffering intolerably from incurable illness.

"And to have a settled wish to die."

"Fydd gynnon ni gyd farn.

"I fi, mae hyn am hawl bob unigolyn i allu wneud y dewis hwnnw.

"Fedrwn ni ddychmygu sut beth ydy o.

"Tan dach chi yn y sefyllfa o fod mewn poen dirdynnol hyd yn oed efo gofal lliniarol, fedra i ddim deud bod rhaid i chi drio parhau."

Roedd eraill yn gwrthwynebu newid y gyfraith.

"I regard all life as sacred and believe that all human beings are made in the image of God and that no matter our age, circumstance or social status every life is precious and has equal value and dignity and is worth living."

"Mae gen i ofidion sylweddol ynglŷn â'r mesur a beth fydd e'n golygu."

Mae'r Dr Siwan Seaman yn ymgynghorydd gofal diwedd oes ac yn erbyn unrhyw newid.

"Un o fy mhrif bryderon yw bydd y cleifion sy'n sôn am deimlo yn faich i fi ar hyn o bryd, bod nawr dewis i nhw ac y dylen nhw ddewis yr opsiwn yna i gael cymorth i farw.

"Yr aelodau bregus o gymdeithas sy'n peri'r gofid mwyaf i fi."

Be fasech chi'n ddeud i'r ddadl dylai pobl gael hawl i benderfynu sut a phryd y byddan nhw'n marw?

"Unwaith mae'r ddeddf yn newid, mae'n newid i bawb.

"Mae'n rhaid meddwl am y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

"Sdim ots faint o fesurau diogelu fyddan nhw'n rhoi yn eu lle fydd dim byd yn diogelu digon i'r aelodau 'ny."

Ddiwedd mis nesa bydd Aelodau Seneddol yn trafod a phleidleisio ar y mater.

Os bydd e'n pasio, bydd e'n golygu newid cymdeithasol enfawr.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.