Damwain trên: Dyn wedi marw a phedwar wedi eu hanafu'n ddifrifol
Damwain trên: Dyn wedi marw a phedwar wedi eu hanafu'n ddifrifol
Mae'r uned sy'n ymchwilio i ddamweinau ar y rheilffyrdd wedi cyhoeddi nos Fawrth fod pedwar o bobl wedi eu hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn nos Lun.
Daeth cadarnhad yn ystod oriau mân fore Mawrth bod dyn wedi marw.
Mae 11 yn rhagor o bobol wedi cael triniaeth mewn ysbyty.
Roedd y dyn a fu farw yn ei chwedegau ac yn y trên a oedd yn teithio rhwng Amwythig ac Aberystwyth. Roedd y trên arall yn teithio o Fachynlleth i Amwythig. Roedd y ddau drên yn cael eu rhedeg gan Trafinidaeth Cymru.
Cyhoeddodd Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) nos Fawrth ei bod hi'n ymddangos fod y gwrthdrawiad wedi digwydd tra roedd y trenau yn teithio ar gyflymder o ryw 15 mya.
Olwyn
Mae'r uned wedi bod ar safle'r gwrthdrawiad gydol y dydd ac yn cydweithio â'r Heddlu Trafinidaeth a'r cwmnïau rheilffyrdd er mwyn casglu tystiolaeth ac archwilio'r blwch du a fu'n cofnodi'r daith. Bydd tystion hefyd yn cael eu holi, meddai'r RAIB.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae tystiolaeth ger safle'r gwrthdrawiad yn awgrymu y gallai olwynion un o'r trenau o bosibl fod wedi llithro wrth frecio.
Yn ôl yr RAIB, bydd ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal.
"Mae ein hymchwiliad yn y camau cyntaf, a bydd diweddariad ar gael yn y dyddiau nesaf, pan fydd tystiolaeth bellach wedi ei chasglu", meddai'r RAIB.
'Sioc'
Roedd Bethan Evans ymhlith y rheiny oedd yn teithio ar un o'r trenau pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi’n credu ‘nes i falle passo mas neu bwrw pen fi pan wnaeth yr impact actually digwydd efo’r trên arall.
“Dwi’n teimlo’n lwcus wrth gweld beth ‘di digwydd i pobl eraill.
“Ti’n clywed am ddamwain mewn car a pethau, ti ddim rili yn clywed am damweiniau trên llawer felly oedd e’n bach o sioc i gael profiad fel hyn.
“Gobeithio byddwn i ddim yn cael profiad fel hwnna eto.
“Dwi’n credu bydd e’n profiad bydd yn byw mewn meddwl ti am llawer o amser hefyd,” meddai.
'Diolchgar'
Wrth ymateb i’r digwyddiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys a fynychodd leoliad y ddamwain, ac a fu'n cynorthwyo ein teithwyr a'n staff.
“Bydd Rheilffordd y Cambrian i'r dwyrain o Fachynlleth ar gau tra bod timau arbenigol yn parhau â'u hymchwiliadau, ac mae Trafnidiaeth Cymru yn annog teithwyr i beidio â theithio i'r rhan hon o'r rhwydwaith.
“Diogelwch ein teithwyr a'n staff yw'n prif flaenoriaeth bob amser. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r holl asiantaethau, gan gynnwys y gwasanaethau brys a'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB), i ddeall sut digwyddodd y digwyddiad hwn a byddant yn cael fy nghefnogaeth lawn.”