Clunderwen: Rhyddhau dau ar fechnïaeth yn dilyn marwolaeth 'anesboniadwy' baban
Mae dau berson a gafodd eu harestio yn dilyn marwolaeth "anesboniadwy" baban yn Sir Benfro wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 13.45 ddydd Gwener i eiddo yng Nghlunderwen wedi pryderon am les bachgen pedwar mis oed.
Dywedodd yr heddlu fod y plentyn wedi marw yn y fan a'r lle, ac mae swyddogion wedi anfon eu cydymdeimladau at y teulu.
Roedd dynes 19 oed a dyn 23 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn, ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu gynnal ymholiadau pellach.
Bydd pobl sy'n byw yn ardal Clunderwen yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol dros y dyddiau nesaf, meddai'r heddlu.
Ychwanegodd y llu bod marwolaeth y babi yn cael ei thrin fel un "anesboniadwy".