Newyddion S4C

Bachgen wyth oed 'wedi marw wrth hela cwningod'

17/10/2024
Jay Cartmell

Mae cwest wedi clywed fod bachgen wyth oed a fu farw ar fferm wedi marw o ganlyniad i gael ei saethu tra'r oedd yn hela cwningod.

Cafodd Jay Cartmell ei anafu yn ei ben a'i wyneb ar dir fferm yn Cumbria, Gogledd Lloegr ar 28 Medi.

Cafodd gwn ei ddarganfod ar y safle ac fe gafodd y bachgen ei gludo i ysbyty gyfagos mewn ambiwlans awyr.

Bu farw rai oriau yn ddiweddarach.

Fe wnaeth crwner cynorthwyol Cumbria, Dr Nicholas Shaw agor a gohirio'r cwest i'w farwolaeth ddydd Iau.

Cafodd y penderfyniad i'w ohirio ei wneud i alluogi'r heddlu i barhau gyda'u hymchwiliad i'r achos.

Mae dyn yn ei 60au wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wedi iddo gael ei arestio ar y diwrnod y bu farw Jay.

'Ein bachgen perffaith'

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd rhieni Jay ei fod yn fachgen caredig a direidus a'i fod yn hoff o ofalu am anifeiliaid anwes.

“Mae ein calonnau wedi torri gan farwolaeth ein bachgen bach perffaith, Jay Cartmell.

“Roedd yn gariadus, yn garedig ac yn ddireidus, y bachgen gorau y gallai unrhyw un ofyn amdano a thrydedd cornel ein ‘triongl’ teuluol hardd.

“Roedd Jay wrth ei fodd bod yn yr awyr agored, roedd yn dechrau dilyn yn ôl traed ei dad gyda’i obsesiwn am speedway yn Workington, lle'r aeth am y tro cyntaf yn un oed.”

Roedd Jay hefyd yn mwynhau pysgota gyda’i dad ac yn hoff o helpu i ofalu am anifeiliaid anwes y teulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.