Newyddion S4C

Starmer yn rhoi stŵr i weinidog dros sylwadau am foicotio P&O Ferries

12/10/2024
Louise Haigh

Mae Syr Keir Starmer wedi rhoi stŵr i un o’i weinidogion ei hun wedi iddi awgrymu y dylai’r cyhoedd foicotio cwmni P&O Ferries.

Roedd beirniadaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Louise Haigh wedi peryglu buddsoddiad o £1 biliwn yn y DU, meddai’r cwmni.

Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd ei sylwadau hi yn adlewyrchu “barn y Llywodraeth”.

Roedd adroddiadau bod cwmni DP World o Dubai, rhiant-gwmni P&O, wedi bwriadu cyhoeddi buddsoddiad £1bn yn y DU yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Ryngwladol y Llywodraeth ddydd Llun.

Ond, yn ôl Sky News, roedd y cwmni’n adolygu'r buddsoddiad hwnnw ar ôl i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ms Haigh feirniadu P&O Ferries.

Dydd Mercher roedd Louise Haigh wedi cyflwyno deddfwriaeth er mwyn atal cwmnïoedd rhag rhoi’r sac i staff a chyflogi gweithwyr rhatach yn eu lle.

Roedd cwmni P&O wedi gwneud hynny yn 2002 gan ddiswyddo 800 o weithwyr.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ddisgrifio P&O Ferries fel “cowbois”.

Mewn cyfweliad ITV aeth Ms Haigh ymhellach, gan ddweud: “Rydw i wedi bod yn boicotio P&O Ferries ers dwy flynedd a hanner, ac rwy’n annog defnyddwyr i wneud yr un peth.”

Ond dywedodd Syr Keir: “Wel, nid dyna farn y Llywodraeth.”

Yn ôl Sky News ddydd Sadwrn fe fydd prif weithredwr DP World Sultan Ahmed bin Sulayem yn mynychu’r uwch gynhadledd fuddsoddi ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.