Newyddion S4C

Athro yn euog o ymosod ar ddisgybl yng Nghastell Newydd Emlyn

08/10/2024

Athro yn euog o ymosod ar ddisgybl yng Nghastell Newydd Emlyn

Mae athro wedi ei ganfod yn euog o ymosod ar ddisgybl ysgol ar noson allan yn Sir Gâr.

Cafodd Llŷr James, 31 oed, ei gyhuddo o ymosod ar Llŷr Davies, 16 oed, ar noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn ar 9 Mawrth eleni.

Bu farw Llŷr Davies dridiau wedi’r ymosodiad, mewn digwyddiad nad oedd yn gysylltiedig gyda'r ymosodiad, a hynny yn chwarel Gilfach, ger Efailwen fis Mawrth eleni.

Yn ôl y BBC, fe wnaeth Mr James, a oedd yn athro chwaraeon yn Ysgol Bro Teifi, bleidio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Ond mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth, fe gafodd James ei ganfod yn euog o’r drosedd.

Fe gafodd yr achos ei ohirio tan 25 Hydref.

Llun: Llŷr Davies (llun teulu)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.