Gwobrwyo capiau hanesyddol i fenywod a chwaraeodd bêl-droed dros Gymru
Fe fydd menywod a chwaraeodd bêl-droed dros Gymru rhwng 1973 a 1993 yn derbyn eu capiau mewn seremoni arbennig nos Wener.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Fe wnaeth 94 o fenywod chwarae dros Gymru yn ystod y cyfnod, ond gan nad oedd y tîm dan ofal Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), doedd y chwaraewyr ddim yn derbyn capiau.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu ar y cyd gan CBDC ac S4C, yn cyd-fynd â rhaglen ddogfen fydd yn adrodd hanes pêl-droed menywod yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd Prif Weithredwr CBDC Noel Mooney ei fod yn gyfle i ddangos cydnabyddiaeth i'r rhai a chwaraeodd dros Gymru yn ei blynyddoedd cynnar.
“Ar ôl gweithio'n galed dros y deunaw mis diwethaf yn casglu manylion cyswllt am y cyn-chwaraewyr o’r 70au a’r 80au, bydd hon yn noson arbennig iawn i ddathlu’r menywod a wnaeth ddechrau stori ein tîm cenedlaethol," meddai.
Ar gyfer y rhai na all fynychu’r noson, bydd CBDC yn darparu’r capiau trwy’r post.
“Bydd dros 40 o gyn-chwaraewyr yn derbyn eu capiau fel rhan o’r dathliadau, ac i’r rhai sydd methu bod yno, bydd capiau yn cael eu danfon mor bell â Chanada ac Awstralia lle mae rhai o’n cyn-chwaraewyr bellach yn byw," meddai Noel Mooney.
Chwilio am chwaraewyr
Bydd y newyddiadurwraig Catrin Heledd hefyd yn cynnal dwy sgwrs banel ar y noson gyda’r cyn-chwaraewr Michele Adams; cyn-bennaeth Pêl-droed Merched a Menywod Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Lowri Roberts; a chyflwynydd y rhaglen ddogfen Yr Hawl i Chwarae, Ffion Eluned Owen.
Bydd y noson ei ddarlledu’n fyw ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol CBDC a'u gwefan ffrydio, RedWall+.
Mae rhai chwaraewyr sydd dal yn gymwys i ennill eu capiau ond nad oes manylion cyswllt ar gael iddyn nhw.
Dyma restr o'r chwaraewyr sydd heb fanylion:
Pat Griffiths, Linda James, Ann Rice, Julie Yale, June Houldey, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Jean McCarthy, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Suzy Faul, Jill Anson, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Val Williams, G Day, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton, Caroline Brunt.
Mae modd cysylltu â press@faw.cymru os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer chwaraewr neu aelod o deulu rhai ar y rhestr uchod.