Newyddion S4C

Rhybudd i drigolion Wrecsam i beidio â rhoi fêps mewn biniau cartref

21/09/2024
Fêps

Mae trigolion Wrecsam wedi cael eu rhybuddio i beidio â rhoi fêps sydd wedi'u defnyddio mewn biniau cartref yn sgil cynnydd yn nifer y tanau mewn canolfan ailgylchu.

Dywedodd Cyngor Wrecsam fod saith o danau wedi'u hachosi gan fêps a'r batris lithiwm-ion sydd y tu mewn iddyn nhw ar y safle ar Lôn y Bryn ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae'r cwmni sy’n rheoli’r cyfleuster, FCC Environment, wedi rhoi systemau diogelwch tân newydd mewn lle yn dilyn cynnydd mewn costau yswiriant.

Mae trigolion nawr yn cael eu cynghori i gael gwared ar fêps a batris yn ddiogel trwy fynd â nhw i un o dair canolfan ailgylchu gwastraff cartref Wrecsam neu archfarchnad gyfagos.

Dywedodd Gareth Jones, pennaeth strategaeth gwasanaeth o fewn adran amgylchedd y cyngor, fod y tanau yn peryglu diogelwch staff y ganolfan ailgylchu.
 
“Dw i ddim yn meddwl bod pobol yn ymwybodol o’r peryglon i staff a’r adeilad ei hun,” meddai.  
 
“Mae yna hefyd yr effaith ariannol achos mae'n rhaid cau’r system am ddwy awr ar ôl pob tân.”
 
Ychwanegodd: “Mae yswiriant hefyd yn cynyddu felly mae'r digwyddiadau hyn yn cael effaith ariannol ar drethdalwyr Wrecsam.”
 
Yn ôl y grŵp ymgyrchu dros ailgylchu, Material Focus, mae tua phum miliwn o fêps untro yn cael eu taflu bob wythnos yn y DU.
 
Mae cynlluniau arfaethedig i wahardd fêps untro yng Nghymru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn helpu i leihau effaith amgylcheddol eu taflu.
 
Mae Cyngor Wrecsam bellach yn "ystyried opsiynau eraill" oherwydd "difrifoldeb y sefyllfa".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.