Newyddion S4C

Gobaith dyn ifanc i seiclo'n broffesiynol ar ôl diagnosis canser

16/09/2024

Gobaith dyn ifanc i seiclo'n broffesiynol ar ôl diagnosis canser

"Dw i'n lyfio rasio, reidio beic fi, dw i'n licio'r rhyddid. Dach chi'n gorfod bod reit gryf i fynd allan bob diwrnod a trainio. Dau i bump awr bob diwrnod."

Mewn amrant, mae'n diflannu ac nid ar chwarae bach wnewch chi hynny hyd bentrefi ger troed yr Wyddfa.

O naddu lonydd Eryri, mae hi bellach yn ddefod dyddiol i Sam Woodward sydd a'i yrfa seiclo yn mynd o nerth i nerth.

"Wnes i orffen job fel saer coed i concentratio ar seiclo. Ers hynna wnes i gael lle ar Team PV Formance a dw i'n gallu focussio ar rasio lot mwy.

"Mae 'di galluogi fi i rasio lot fwy a rhoi lot o chances i fi gael dangos fy hun."

Sut mae rhywun yn mynd o reidio ar benwythnosau i fod yn broffesiynol?

"Wnes i rasio yn Wymondham, wnes i gallu neud brec yn y lap cyntaf. Curais i honna hefyd. Oedd o'n massive confidence boost yn mynd mewn i'r Welsh Champs."

Yna'n dod yn Bencampwr Cymru, sut deimlad oedd hynna?

"Amazing, dw i di bod yn dreamio am hwnna ers blwyddyn dros y gaeaf."

Yn 19 oed a phencampwr Cymru, a hynny ddeunaw mis ar ôl gwella o salwch na'th rhoi stop ar y cyfan.

"March, ges i ddiagnosis o leiomyosarcoma, math o ganser. Ar left thigh fi. Na'th hynna roi fi allan am 'chydig o fisoedd.

"Ar ôl dau operation ges i sepsis straight ar ol hynna. Oedd hynna'n awful."

Pa mor heriol oedd dod nôl ar y beic a trio cryfhau?

"O'dd o'n rili tough gorfod dysgu sut i gerdded eto. Wedyn reidio'r beic am hwyl."

Gwaith caled sy 'di deillio o'r cymorth a phrofiad ga'th o gan ei glwb seiclo lleol.

Clwb sy'n dathlu nid yn unig llwyddiant Sam ond hefyd Gareth McGuinness o Lanrug sydd yn bencampwr byd. Achos dathlu i'r clwb lleol.

"Mae be mae Sam 'di neud eleni yn dda iawn efo'i salwch o a bob dim. Ti'n goro tynnu dy gap iddo fo bod o 'di bod mor llwyddiannus."

"Mae'n amazing! Mae'n neis bod pobl yn cael gweld faint o galed mae pobl yn gweithio yn y clwb a cael llwyddiant ohono fo."

Y gobaith yn y pendraw ydy troi yn broffesiynol a'r gwaith o ganfod noddwyr yn heriol ond mwynhau sy'n bwyciach na dim.

"Gen i lot o goals tuag at blwyddyn nesa. Jyst cario mlaen progressio ac enjoio. Dw i'n 100% committed. Dyna dw i isio."

Y gwynt yn ei hwyliau felly a Sam gyda chefnogaeth ei glwb yn anelu tua'r copa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.