Newyddion S4C

Teyrnged i fachgen ysgol 'hoffus' fu farw 'yn sydyn'

Teyrnged i fachgen ysgol 'hoffus' fu farw 'yn sydyn'

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen ysgol “poblogaidd a hoffus” a fu farw “yn sydyn” dros y penwythnos. 

Roedd Marc Aguilar yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd. 

Mae tîm o gwnselwyr yn cefnogi disgyblion a staff yn yr ysgol ddydd Llun.

Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ysgol Bro Edern: “Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn y bu farw un o’n disgyblion yn sydyn dros y penwythnos. 

“Roedd Marc Aguilar o 8 Rhymni 2 yn ddisgybl poblogaidd a hoffus a oedd yn serennu ym myd y campau. 

“Roedd ganddo lawer o ffrindiau ym Mro Edern a bydd colled fawr ar ei ôl.” 

Mae nifer o bobl hefyd wedi gadael negeseuon o gydymdeimlad i’r teulu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.