Newyddion S4C

Huw Edwards yn cyrraedd y llys i gael ei ddedfrydu

Huw Edwards

Mae cyn-gyflwynydd y BBC, Huw Edwards wedi cyrraedd Llys Ynadon Westminster ddydd Llun ar gyfer ei ddedfrydu, ar ôl iddo gyfaddef i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant.

Fe blediodd Edwards, 63, yn euog yn yr un llys ym mis Gorffennaf i gyhuddiadau o fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant, gyda saith o'r 41 o'r math mwyaf difrifol.

Fe gafodd y darlledwr ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Ond fe allai ei achos gael ei anfon i lys y goron os bydd y barnwr rhanbarth yn penderfynu nad oes ganddyn nhw’r pwerau priodol i'w ddedfrydu bryd hynny.

Roedd wedi gweithio i'r BBC am 40 o flynyddoedd. 

Fe gyflwynodd raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.

Fe hefyd wnaeth gyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 2022, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd. 

Ddydd Mawrth diwethaf dywedodd cadeirydd y BBC fod Huw Edwards wedi "difetha enw da'r gorfforaeth".

Daeth sylwadau Samir Shah wrth iddo ef  a’r cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie, gael eu holi gan Bwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi ar eu strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Wrth gael ei holi dywedodd Dr Shah wrth y pwyllgor: "Does dim byd pwysicach nag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC, ac rydym yn geidwaid yr ymddiriedaeth honno. Mae’r hyn a wnaeth Huw Edwards wedi difetha enw da'r BBC, felly rydym yn cymryd hynny o ddifrif.

"Dylwn ddweud, roedd yn sioc darganfod - pan gafodd ei gyhoeddi, pan gafodd ei gyhuddo - ei fod wedi byw bywyd dwbl. 

"Ar y wyneb, roedd yn gyflwynydd newyddion dibynadwy, ond yn gyfrinachol, roedd yn ffigwr a oedd wedi gwneud y pethau mwyaf echrydus."

Mae staff eraill fu’n gweithio gydag ef "yn teimlo’n grac ac wedi eu bradychu" gan Edwards, meddai. 

Talu cyflog yn ôl

Fe wnaeth y BBC gyfaddef iddynt gael gwybod bod Edwards wedi cael ei arestio ym mis Tachwedd. 

Ond fe barhaodd y gorfforaeth i'w gyflogi am tua phum mis nes iddo adael ar gyngor meddygol ym mis Ebrill eleni.

Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a dalwyd iddo ar ôl cael ei arestio ym mis Tachwedd.

Dywedodd Mr Davie: "Rydym wedi gwneud y cais ffurfiol, ac ni allaf fynd i ormod o fanylion, ond mae trafodaethau ar y gweill. Does gen i ddim newyddion pellach, heblaw bod safbwynt y BBC yn glir, dylai'r arian gael ei ddychwelyd, ac rydym wedi gwneud y cais."

Ychwanegodd Mr Davie nad oedd wedi gosod terfyn amser ond eu bod yn "disgwyl gwneud cynnydd a chael ateb".

Bydd y BBC yn "archwilio" y broses gyfreithiol os bydd Edwards yn gwrthod meddai.

Mae Huw Edwards wedi cael ei ddiarddel o’r Orsedd a Llys yr Eisteddfod ac wedi colli nifer o anrhydeddau eraill gan sefydliadau eraill yng Nghymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.