Pum mlynedd ychwanegol o garchar i leidr trysorau Llychlynnaidd
Mae dyn a gafwyd yn euog o ddwyn casgliad o drysor Llychlynnaidd gwerth £3 miliwn wedi cael dedfryd estynedig o garchar wedi iddo fethu ag ad-dalu mwy na £600,000.
Cafodd Layton Davies, sy'n 56 oed ag o Bontypridd yn flaenorol, ei garcharu gyda dyn arall yn 2019 am fethu â datgan bod y casgliad o drysor yn dyddio’n ôl 1,100 o flynyddoedd i deyrnasiad y Brenin Alfred Fawr ac yn lle hynny roedd wedi gwerthu nifer fawr o eitemau am elw sylweddol.
Cloddiwyd y trysor, llawer ohono yn Eingl Sacsonaidd ond oedd yn cynnwys deunydd oedd yn nodweddiadol o'r cyfnod Llychlynnaidd hefyd, ar dir fferm yn Siydd Henffordd ar 2 Mehefin 2015.
Mae Davies eisoes yn y carchar am bum mlynedd am y drosedd wreiddiol, ond cafodd bum mlynedd a thri mis arall ar ôl methu ag ad-dalu £670,381 a wnaed o werthu’r trysor.
Mae arbenigwyr yn credu y byddai'r trysor wedi darparu gwybodaeth newydd am gynghreiriau rhwng brenhinoedd hynafol Mersia a Wessex.
Dywedodd Debbie Price, dirprwy brif erlynydd y Goron yn Adran Elw Troseddau Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Arweiniodd trachwant Layton Davies i anwybyddu ei ddyletswydd i riportio’r trysor a ddarganfuwyd ac yn lle hynny ei werthu er ei fudd ei hun.
“Yn ddatgelydd metel profiadol, byddai Davies wedi gwybod bod ganddo hawl i hanner yr elw o werthu’r trysor yn gyfreithlon, gan ddewis yn lle hynny amddifadu’r tirfeddiannwr a’r cyhoedd drwy ddwyn y trysor eithriadol ac arwyddocaol hwn.
“Mae’r achos hwn yn dangos bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd ein dyletswydd i sicrhau nad yw trosedd yn talu o ddifrif, mae Davies wedi methu â thalu felly rydym wedi mynd ag ef yn ôl i’r llys ac mae ei ddedfryd ychwanegol yn golygu ei fod bellach yn wynebu pum mlynedd arall yn y carchar.”
Llun: Yr Amgueddfa Brydeinig