Newyddion S4C

Adroddiad damniol ar y GIG: Beth mae’n ei ddweud a beth yw'r ymateb?

12/09/2024
Keir Starmer

Mae’r Prif Weinidog Keir Starmer wedi dweud bod rhai i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol “addasu neu farw” yn dilyn adroddiad damniol.

Mae’r adroddiad gan yr Arglwydd Darzi yn dweud bod targedau amseroedd aros yn cael eu methu ar draws y GIG.

Pam ei fod yn bwysig: Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ei ddatganoli i Gymru, felly mae’r adroddiad yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr yn unig. 

Serch hynny maen nhw’n wynebu heriau tebyg, gan gynnwys rhestrau aros hir.

Beth mae’r adroddiad yn ei ddweud am y problemau?

  • Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr mewn “cyflwr argyfyngus”.
  • Mae’r GIG wedi’i danseilio’n sylweddol gan ddiwygiadau gwael.
  • Mae hynny yn ei dro wedi tanseilio ymddiriedaeth a chefnogaeth y staff. 
  • Mae tanfuddsoddi difrifol mewn offer ac adeiladau wedi gadael y GIG ar ei hol hi. 
  • Mae iechyd y genedl, yn enwedig iechyd meddwl, yn parhau i ddirywio gan wneud y problemau hyn yn waeth.

Mae’r adroddiad yn argymell:

  • Rhoi mwy o rym i yrru newidiadau yn nwylo staff a rhoi rhagor o ddewis i gleifion.
  • Symud gofal allan o ysbytai ac i mewn i’r gymuned.
  • Defnyddio technoleg newydd fel AI i wella gofal ac effeithlonrwydd. 

Yr ymateb

Dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer bod y dewis rhwng “codi trethi ar bobl sy’n gweithio i gwrdd â chostau cynyddol poblogaeth sy’n heneiddio, neu ddiwygio”.

“Rydyn ni’n gwybod na all pobl sy’n gweithio fforddio talu mwy, felly mae’n rhaid diwygio neu farw,” meddai.

Dywedodd yr Athro Kamila Hawthorne, cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ei fod yn  “gwneud synnwyr llwyr i symud adnoddau i ofal sylfaenol”.

“Mae cleifion eisiau derbyn gofal a lle mae darparu gofal yn fwyaf effeithiol o ran pris,” meddai.

Dywedodd ysgrifennydd iechyd cysgodol y Ceidwadwyr, Victoria Atkins, fod angen i Lafur symud o rethreg i weithredu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.