Dirwy i ddyn o Abertawe am gasglu cocos yn anghyfreithlon
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei orchymyn i dalu bron i £1,000 ar ôl dianc mewn cerbyd 4x4 wrth gasglu cocos yn anghyfreithlon.
Ar 16 Mehefin y llynedd, roedd swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt o Heddlu Dyfed Powys yn patrolio ardal Gogledd Gŵyr pan ddaeth adroddiad bod rhywun yn casglu cocos yn anghyfreithlon yn ardal Llanmadog.
Aeth y swyddogion i Lanmadog a gweld Stefan Swistun, o Fanc Bach, Penclawdd, Abertawe, yn casglu cocos heb drwydded ddilys.
Wrth i swyddogion nesáu at Swistun, ceisiodd guddio ei wyneb cyn dianc yn ei gerbyd 4x4 yn ddiweddarach.
Ar ôl gyrru ar hyd y traeth, fe guddiodd Swistun ei gerbyd mewn ardal dywodlyd lle cafodd ei ddarganfod gan y swyddogion gorfodi yn ddiweddarach.
Cafodd Swistun ei ddal pan ddychwelodd i symud ei gerbyd cyn i'r llanw gyrraedd y traeth.
Derbyniodd rybudd ac fe wnaeth yr heddlu gymryd ei offer casglu cocos.
Yn Llys Ynadon Abertwe ddiwedd mis Awst, cafodd Swistun ei gyhuddo o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 o fethu â chydymffurfio â chais Swyddog Gorfodi i stopio ar y safle.
Fe wnaeth gyfaddef i'r drosedd a derbyniodd ddirwy o £345 yn ogysal â gorchymyn iddo dalu costau o £500 a gordal dioddefwr o £138, sef cyfanswm o £938.
Dywedodd Alun Thomas, Uwch Swyddog Gorfodi CNC: "Mae'r gosb ddiweddaraf hon a osodwyd gan y llys yn anfon neges glir na fydd troseddau yng Nghilfach Tywyn yn cael eu goddef ac y bydd troseddwyr yn profi grym y gyfraith i’r eithaf."