Newyddion S4C

Hyd at 50 o swyddi i gael eu colli yn BBC Cymru

04/09/2024
Rhuanedd Richards

Bydd hyd at 50 o swyddi yn cael eu colli yn BBC Cymru meddai’r gorfforaeth, ac efallai na fydd modd osgoi diswyddiadau gorfodol medd rheolwyr.

Mae 746 o staff yn gweithio yno ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i rhwng 25 a 30 o swyddi staff cynhyrchu a golygyddol a 20 o weithwyr yn yr adran weithredol gael eu colli.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru mewn galwad fideo i’r staff bod yn rhaid “gwneud arbedion”.

 "O ystyried lefel yr arbedion sydd eu hangen, ni allwn ddiystyru diswyddiadau gorfodol,” meddai.

Mewn datganiad yn ddiweddarach dywedodd: “Mae BBC Cymru, fel gweddill y Gorfforaeth yn gorfod gwneud arbedion i gyrraedd y targed cyffredinol a osodwyd gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Mawrth. 

“Mae angen yr arbedion hyn i sicrhau bod y BBC yn gweithredu o fewn y gyllideb ac yn mynd i’r afael â dulliau cynhyrchu a chomisiynu mewn diwydiant sy’n esblygu ac yn newid yn barhaus.

“Tra’n cydnabod yr heriau, mae ein huchelgais creadigol yn parhau, sef sicrhau gwerth ffi’r drwydded ac addasu i anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n newid yn barhaus."

Ychwanegodd: “Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn mwy o gynnwys o Gymru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein sef BBC iPlayer, BBC Sounds, a’n gwasanaethau newyddion a chwaraeon ar-lein.  

“Mae hefyd yn golygu buddsoddi mwy mewn rhaglenni tebyg i’r rhai sydd wedi bod ar y sgrin dros y flwyddyn ddiwethaf; cyfresi drama fel Lost Boys and Fairies a Steeltown Murders a rhaglenni dogfen dylanwadol fel SOS Extreme Rescues, Saving Lives in Cardiff a Strictly Amy; Cancer and me.”

‘Arbed’

Cyhoeddodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y gorfforaeth Tim Davie ym mis Mawrth eu bod nhw’n wynebu dod o hyd i £200m o arbedion.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Yn gynharach eleni fe amlinellodd Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie fod gan y BBC heriau ariannol sylweddol. 

“Heddiw, mae BBC Cymru wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu gwneud arbedion fel rhan o’r ymateb i’r her honno.  

“Fel rhan o’r mesurau i arbed costau, mae’r darlledwr yn bwriadu lleihau ei weithlu o rhwng 45 a 50.

“Bydd cyfnod o Ddiswyddo Gwirfoddol yn cychwyn yn fuan.”

Ychwanegodd y llefarydd bod “prosiectau effeithlonrwydd ar waith  ar draws y busnes, mewn ymgais i gwrdd â'r arbedion hyn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol”.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.