Biwmares: Y gymuned yn dod at ei gilydd wythnos wedi i dri farw
Biwmares: Y gymuned yn dod at ei gilydd wythnos wedi i dri farw
Daeth dros 100 o bobl at ei gilydd yn nhref Biwmares ddydd Mercher er mwyn cofio’r rhai fu farw mewn gwrthdrawiad wythnos yn ôl.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yng nghanol tref Biwmares ar ddydd Mercher, 28 Awst.
Daeth y gymuned at ei gilydd am 18.00 ger Cerrig yr Orsedd y dref ar lan y môr i gofio am y rheini fu farw.
Roedd Stephen a Katherine Burch yn 65 oed ac yn byw yn Alcester, Sir Warwick.
Roedd Humphrey John Pickering, gyrrwr y car fu’n rhan o’r gwrthdrawiad, yn 81 oed ac yn dod o ardal Bae Colwyn.
Cafodd cwest ei agor a’i ohirio yng Nghaernarfon fore Mercher.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd Kate Robertson, Uwch Grwner Ei Fawrhydi ar gyfer gogledd orllewin Cymru bod y tair marwolaeth wedi eu cofnodi am 15.21 ar ddydd Mercher 28 Awst ym Miwmares gan aelodau o'r gwasanaethau brys.
Dywedodd bod gwrthdrawiad wedi digwydd wedi i gerbyd oedd yn cael ei yrru gan Mr Pickering daro dau gerddwr oedd yn y dref.
Fe wnaeth ymchwiliadau post mortem cychwynnol ddod i'r casgliad bod Mr a Mrs Burch wedi marw o ganlyniad i anafiadau niferus.
Daeth ymchwiliad post mortem cychwynnol i farwolaeth Mr Pickering i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'w frest.
Dywedodd y Crwner: "Mae ymholiadau'n parhau i achos y gwrthdrawiad. Fe hoffwn gymryd y cyfle i anfon fy nghydymdeimladau dwysaf at deuluoedd a ffrindiau'r rhai fu farw ac fe hoffwn gydnabod ymdrechion sylweddol y gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd yn ystod cyfnod y digwyddiad."
Cafodd y gwasanaethau brys a dau ambiwlans awyr eu galw i Stryd Alma yn y dref am 14.45, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car Audi A8 a cherddwyr.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a cherddwyr cyfagos, bu farw'r tri yn y digwyddiad.
Mewn teyrnged i Mr a Mrs Burch yn dilyn y gwrthdrawiad, dywedodd Esgobaeth Coventry bod eu marwolaeth wedi dod "fel sioc i’r esgobaeth gan y bydd llawer yn adnabod Steve, a ymddeolodd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ar ôl gwasanaethu gyda ni mewn sawl rôl am dros 35 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Ficer St James, Fletchamstead am 19 mlynedd.
“Roedd Steve yn aelod poblogaidd o’n hesgobaeth ac yn adnabyddus am ei hiwmor da a’i ffydd ddiwyro a bydd llawer hefyd yn adnabod Kathy yn dda o’i gwaith gyda CPAS a’r weinidogaeth weddi.
"Fel cwpl roeddent yn dal yn weithgar iawn ar ôl ymddeol eleni, gan redeg cwrs Alpha yn arwain at fedydd a chonffyrmasiwn."
Cafodd y cwestau eu gohirio gan y Crwner ddydd Mercher gan fod ymchwiliad yr heddlu i'r gwrthdrawiad yn parhau.