Israel yn canfod cyrff chwe gwystl yn Gaza
Mae Israel wedi dod o hyd i gyrff chwe gwystl oedd yn cael eu dal gan Hamas yn Gaza.
Mewn datganiad, dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) bod y cyrff wedi eu darganfod mewn twnnel tanddaearol yn ardal Rafah.
Carmel Gat, Eden Yerushalmi, Hersh Goldberg-Polin, Alexander Lobanov, Almog Sarusi ac Ori Danino oedd enwau’r gwystlon, yn ôl yr IDF.
Dywedodd grŵp sy’n cynrychioli teuluoedd y gwystlon, Fforwm Teuluoedd y Gwystlon, fod y chwe unigolyn wedi eu “llofruddio yn y dyddiau diwethaf ar ôl goroesi 11 mis o gam-drin, artaith a llwgu yn nwylo Hamas.”
Mae’r grŵp wedi galw ar Brif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu i “gymryd cyfrifoldeb" am “adael” y gwystlon.
Byddent yn cynnal protestiadau yn Jerusalem, Tel Aviv a rhannau eraill o Israel er mwyn galw am gytundeb i ryddhau gwystlon.
Roedd un o’r gwystlon, Mr Goldberg-Polin, yn ddinesydd Americanaidd, ac wedi’r newyddion, dywedodd yr Arlywydd Joe Biden ei fod wedi ei “dristau a’u gythruddo”.
Mewn datganiad fore Sul, dywedodd yr IDF bod y cyrff wedi eu “dychwelyd i diriogaeth Israel”.
Dywedodd Isaac Herzog, Arlywydd Israel, fod y newyddion wedi “chwalu calon y genedl gyfan i ddarnau”.
“Ar ran wladwriaeth Israel, rydw i’n cofleidio eu teuluoedd gyda fy nghalon gyfan ac yn ymddiheuro iddyn nhw am fethu â dod â nhw yn ôl adref yn ddiogel."
Cafodd 251 o bobl eu cipio fel gwystlon gan Hamas ar 7 Hydref y llynedd, mewn ymosodiad yn ne Israel a laddodd 1,200 o bobl.
Ers hynny, mae 40,530 o bobl wedi eu lladd yn Llain Gaza mewn ymgyrch filwrol gan Israel er mwyn ceisio rhyddhau’r gwystlon a chwalu Hamas.
Ddydd Sul, bydd y cyntaf o dri “seibiant dyngarol” yn y brwydro yn cael ei gynnal, er mwyn i’r Cenhedloedd Unedig gychwyn ar y Gwaith o frechu 640,000 yn erbyn polio.
Daw wedi i’r achos cyntaf o’r feirws heintus mewn 25 mlynedd cael ei ganfod yn Gaza fis Awst, mewn plentyn 10 oed.
Llun: AFP/Hostages Families Forum