Corff wedi’i ddarganfod ar draeth Aberafan
28/08/2024
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i gorff gael ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar draeth Aberafan ger Port Talbot.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle fore Mercher.
Dywedodd y llu: “Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am tua 9:25yb wedi adroddiad bod corff wedi ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar draeth Aberafan.
“Roedd y person wedi marw yn y fan a’r lle.
“Nid yw’r broses adnabod ffurfiol wedi digwydd eto, ac mae ymchwiliadau i’r digwyddiad yn parhau."
Yn ôl yr heddlu, maen nhw'n trin y farwolaeth fel un heb esboniad ar hyn o bryd.