Newyddion S4C

Cyn-Gadeirydd y BBC wedi cael ei briffio ar amgylchiadau arestio Huw Edwards cyn ei ganmol

Newyddion S4C 08/08/2024

Cyn-Gadeirydd y BBC wedi cael ei briffio ar amgylchiadau arestio Huw Edwards cyn ei ganmol

Roedd cyn-Gadeirydd y BBC wedi cael ei briffio ar amgylchiadau arestio Huw Edwards cyn canmol y cyflwynydd yn gyhoeddus ar Radio Cymru.

Y Fonesig Elan Closs Stephens oedd cadeirydd dros dro y gorfforaeth pan arestiwyd y cyflwynydd ym mis Tachwedd y llynedd.

Dydd Gwener diwethaf, fe gadarnhaodd ei bod yn ymwybodol i Edwards gael ei arestio pan gyfeiriodd ato fel "Huw druan" ar raglen Beti a'i Phobol recordiwyd ar Orffennaf yr ail eleni.

Dywedodd hefyd nad oedd hi'n ymwybodol o'r "manylion ofnadwy" ddaeth i'r amlwg yn y llys a'i bod wedi ei "harswydo gan yr holl beth".

Roedd hi wedi gwrthod ateb a oedd hi'n ymwybodol o natur ymchwiliad yr heddlu.

Ond mewn datganiad byr i raglen Newyddion S4C, mae'r BBC wedi cadarnhau: "Cafodd y Cadeirydd dros dro ei briffio ar arestio Mr Edwards gyda'r wybodaeth roddwyd i'r BBC gan yr heddlu."

'Sioc enfawr'

Mewn cyfweliad wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Tim Davie bod y gorfforaeth yn gwybod i'r cyflwynydd gael ei arestio dros y categori mwyaf difrifol o ddelweddau anweddus o blant, gan ddweud: "Roedden ni'n gwybod bod e'n ddifrifol, doedden ni ddim yn gwybod unrhyw fanylion penodol, heblaw am gategori y troseddau posibl."

Dywedodd nad oedd rheolwyr yn gwybod beth oedd oedran y plant yn y delweddau.

Ac fe amddiffynnodd y modd mae'r BBC wedi delio a'r mater, gan ddweud i'r heddlu ofyn iddyn nhw gadw'r manylion yn gyfrinachol a phwysleisio nad oedd Edwards wedi ei gyhuddo'n ffurfiol cyn ymddiswyddo o'i rôl gyda'r BBC.

Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, plediodd Edwards yn euog i dri chyfrif o greu delweddau anweddus o blant.

Cyfaddefodd bod ganddo 4 delwedd anghyfreithlon ar ei ffon symudol, gyda saith o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol, a dwy ddelwedd o blentyn rhwng tua saith a naw oed.

Does dim awgrym bod Elan Closs Stephens yn ymwybodol iddo fe gael ei gyhuddo'n ffurfiol gan yr heddlu pan oedd hi'n siarad ar Beti a'i Phobol.

Ar y rhaglen honno, fe gyfeiriodd at y cyflwynydd fel "Huw druan" wrth sôn am honiadau ym mhapur newydd The Sun ynglŷn â'i fywyd personol. 

Roedd yr honiadau yna ar wahân i'r achos troseddol diweddar ac ni arweiniodd y rheiny at erlyniad.

Aeth ati wedyn i ganmol "cyfraniad enfawr" y cyflwynydd.

Mewn ymateb i gais am ymateb i ddatganiad y BBC, dywedodd Elan Closs Stephens: "Fel y dywedais , roedd y manylion a ddaeth allan yn y Llys yn frawychus ac yn sioc enfawr i mi fel i weddill pobl Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.