Gemau Olympaidd: Tair Cymraes yn cipio efydd yn y seiclo
Fe wnaeth tair Cymraes sicrhau medal efydd i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd nos Fercher ar ôl dod yn drydydd yn y ras cwrso tîm.
Dywedodd Elinor Barker: "Roeddem ni'n meddwl efallai ein bod ni yn bach cynt na nhw ond erbyn y diwedd, roedd hi'n agos iawn. Do'n i ddim yn disgwyl hynny, fe wnaethon nhw reidio yn dda iawn hefyd.
"Dwi ddim yn gwybod yr amser na pha mor agos oedd hi ar y diwedd oherwydd fe wnes i glywed ein gwn ni gyntaf a dyna'r cwbl oeddwn i angen gwybod."
Llwyddodd Elinor Barker, Anna Morris a Jess Roberts ynghyd â Josie Knight, i guro'r Eidal i sicrhau bod record tîm Prydain o gyrraedd y podiwm ymhob Gemau Olympaidd ers cyflwyno'r gystadleuaeth yn 2012 yn parhau.
Inline Tweet: https://twitter.com/BeicioCymru/status/1821236448248402074
Roedd Elinor Barker ac Anna Morris yn yr un flwyddyn yn Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd, gyda chwaer Elinor, Megan, hefyd yn eilydd ar gyfer y ras.
Nid oedd Katie Archibald, sydd wedi ennill aur ddwywaith yn y Gemau Olympaidd, yn rhan o'r tîm, a hynny wedi iddi dorri ei choes mewn damwain wythnosau yn unig cyn y gystadleuaeth.
Roedd y tîm ar ei hôl hi am fwyafrif o'r ras, ond gyda llai na 500m i fynd, llwyddodd y tîm i fynd ar y blaen.
Gorffennodd y tîm gydag amser o 4:06.382, gyda'r Eidalwyr yn croesi'r llinell ddwy eiliad a hanner yn ddiweddarach.
Ar ôl ennill y fedal aur yn Rio yn 2016, a medal arian yn Tokyo dair blynedd yn ôl, dyma'r drydedd fedal Olympaidd i Barker, sydd yn 29 mlwydd oed, ei hennill.