Galwad i newid enw gwobr 'Dysgwr y Flwyddyn' wrth i Antwn Owen-Hicks ei hennill
Mae beirniaid Dysgwr y Flwyddyn wedi galw am newid enw y wobr wrth ei dyfarnu i Antwn Owen-Hicks eleni.
Fe anrhydeddwyd Antwn Owen-Hicks o Dredegar mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, yn dilyn cystadleuaeth o ddenodd y nifer mwyaf o geisiadau erioed.
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd un o'r beirniaid, Cefin Campbell AS, y dylid galw'r ymgeiswyr yn siaradwyr newydd yn hytrach na dysgwyr.
“Yn hytrach na dweud Dysgwr y Flwyddyn mae’n rhaid i fi dwi’n meddwl arfer y term ‘siaradwr Cymraeg newydd’,” meddai.
“Achos mae 'na beryg os ydyn ni’n labelu pobl yn ddysgwyr mai dysgwyr fyddan nhw am byth.
“I ni gyd ar daith o ran siarad Cymraeg. Da ni i gyd yn dysgu geiriau newydd o hyd ac o hyd.
“Felly siaradwyr Cymraeg newydd ydyn nhw.”
Cafodd 45 o unigolion eu cyfweld eleni, gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu.
Y beirniaid oedd Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Joshua Morgan, Alanna Pennar-Macfarlane ac Elinor Staniforth.
Mae Antwn yn defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-gymraeg - ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.
Dechreuodd ymddiddori yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain. Aeth ati i ddechrau dysgu pan ddychwelodd i Gymru ac mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg.
Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy, a’i ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.
Mae’n un o sylfaenwyr Carreg Lafar, band gwerin Cymraeg sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y DU, Ewrop a gogledd America.
Yn ogystal, dechreuodd gyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’ gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1818903740922876073
Derbyniodd Antwn Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion.
Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol dlws, yn rhoddedig gan Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair, a £100 yr un, gyda’r wobr ariannol hon yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.
Cefnogir sesiynau Dysgwr y Flwyddyn ym Maes D gan gwmni cyfieithu Nico.
Bydd y pedwar yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.
Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar Barc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst.